Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Daf Du

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 14-19 Rhagfyr 2007, sef Andrea Parry.

Ar nos Iau, Medi 18, daeth Andrea ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd. Ysgrifenodd Andrea y gerdd i Liz Johnson o Gasnewydd, a enillodd y fedal aur am nofio yng ngemau Paralympaidd Beijing, er i'w mam farw tra oedd yno.

Enfys Beijing

Tri lliw
Oedd ar y palet cyntaf hwnnw -
Anrheg a gafodd gan ei mam.
A'r fechan teirblwydd
Yn ail-greu, yn ddyfal,
Llun ei gwers nofio gyntaf...
...Mam a merch
Yn goch fel gwaed
Yn llenwi'r darlun.
Glas y dŵr yn eu lapio'n
Gwrlid diogel.
Roedd hi'n braf,
A'r belen danbaid, felen
Yn tasgu pelydrau
Aur ei goruchafiaeth.
Dyma sut oedd hi i fod
A dysgodd nad oedd hi ddim gwahanol i neb arall.

Ym mhwll ei mabinogi,
Heriodd ddiogelwch y lliwiau
Gan ollwng llaw ei mam
A phlymio'n orfoleddus i'r dyfnderoedd
A'r fam falch yn annog ei rhyddid newydd.

Breuddwyd o fewn ei gafael.

Treiglodd deigryn hyd ei grudd
Wrth droedio'r dŵr yn unig
A'i mam yn ei chymell o bell.
Daeth y gawod olaf
I olchi'r ganfas yn lân.
Deifiodd i'r dŵr di-liw gan hiraethu
Am sbloets y lliwiau,
Ond ym mhwll ei dagrau
Taenwyd enfys,
Ac roedd gweld rhith ei mam
Yn drysor dan ei bwa
Yn fwy gwerthfawr na'r aur am ei gwddf.
A gwyddai bellach bod ganddi'r stôr o liwiau
I ail-greu'r llun.

Andrea Parry, Medi 2008

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.