Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Daf Du

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 10-14 Rhagfyr 2007, sef Andrea Parry.

Ar nos Iau, Rhagfyr 13, daeth Andrea ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd. Yn ôl Andrea, y sbardun i ysgrifennu'r gerdd yma oedd:

"Y newyddion bod sôn am gau neu ffedaraleiddio ysgolion gwledig Gwynedd ac effaith hyn ar gymunedau cefn gwlad."

Cloch yr Ysgol

Mae miwsig ei gwahoddiad
Yn denu to r'ôl to;
Heidio trwy'r drws agored
Mewn hwyl wna plant y fro.

Mae bwrlwm yn y chwarae
A'r sgwrsio sy'n llawn hud
Wrth gasglu i bair yfory
Lond gwlad o drysor drud.

Heddiw'r, cadwyni papur
A fu'n dynn, sy'n bethau brau,
A chlywir sŵn yr ergyd
Yng nghlep y drysau'n cau.

Mae cnul hen gloch yr eglwys
Mewn galar - tro ar fyd;
Daeth taw ar sgwrsio'r plantos,
Aeth lleisiau'r llan yn fud.

Andrea Parry, Rhagfyr 2007

Gwrando

Gwrando'n fyw

Ymlaen nawr: C2: Magi Dodd (20:02-22:00)

Cyfle i glywed pwy fydd rhif 1 2009 yn Siart C2.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.