The Chris Moyles Show 

On Air Now: 06:30 - 10:00

BBC Radio 1's Penwythnos Mawr

Big Weekend tent

See this page in English

Mae'r tocynnau ar gyfer Penwythnos Mawr Radio 1 am ddim, a bydd modd cofrestru i gael tocynnau o ddydd Llun 26ain Ebrill 2010 ymlaen..

Bydd yn rhaid i chi gofrestru eich manylion ar y wefan hon i gael cyfle i fynd i'r digwyddiad. Y llynedd, fe wnaeth tua tri chant a hanner o filoedd o bobl gofrestru i gael tocynnau, ac mae disgwyl i'r galw fod yn uchel iawn eto eleni. Yn anffodus, ni fydd pawb sy'n gwneud cais am docynnau'n llwyddiannus, ond bydd gennym 40,000 o docynnau i'w dyrannu dros y ddau ddiwrnod..

Cynhelir Penwythnos Mawr Radio 1 mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn. Roeddem yn Swindon y llynedd, ac yn Maidstone, Preston, Dundee a Sunderland cyn hynny. Bob blwyddyn, rydym yn rhoi blaenoriaeth i drigolion yr ardal leol, wrth i docynnau gael eu dyrannu ar hap ar sail cod post. Bydd y rhan fwyaf o docynnau eleni yn mynd i'r rheini sy'n byw ym Mangor, yng Ngwynedd, ac yn ardal ehangach Gogledd Cymru; a bydd rhywfaint o docynnau'n cael eu dosbarthu ledled gweddill y DU.

Bydd modd cofrestru i gael tocynnau o ddydd Llun 26ain Ebrill 2010 ymlaen. Parhewch i wrando ar Radio 1 ac edrych yma i gael manylion am sut mae cofrestru a'r cyhoeddiad llawn am yr arlwy. Dalier sylw: Ni fydd eBay na safleoedd arwerthu eraill yn caniatáu i chi werthu tocynnau Penwythnos Mawr Radio 1.

Cofrestrwch i ymuno â'n grŵp Facebook a'n cyfrif Twitter i sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Radio 1's Big Weekend takes place on 22nd-23rd May 2010 at Vaynol Estate, Bangor.

Bu Pixie Lott gael ei chyhoeddi'n perfformio'n fyw ar raglen Chris yn y digwyddiad lansio.

Bydd 20,000 o docynnau ar gyfer pob diwrnod ar gael i'r cyhoedd, a bydd yn bosibl i chi gofrestru ar-lein ar gyfer y tocynnau yn y dyfodol agos.

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae cael tocyn?
Byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer tocynnau ar y wefan yn nes at yr amser, ac wedyn bydd y tocynnau'n cael eu rhannu ar hap.

Sut byddwch yn rhannu'r tocynnau?
Byddwn yn dosbarthu 10,000 pâr o docynnau ar gyfer y dydd Sadwrn a'r dydd Sul. Ond, mae dros 350,000 o bobl wedi gwneud cais am y tocynnau yn ystod y blynyddoedd a fu, felly mae'n debyg y caiff llawer o bobl eu siomi. Bydd Penwythnos Mawr Radio 1 yn symud i ardal wahanol yn y DU bob blwyddyn, a byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i'r trigolion lleol. Caiff y tocynnau eu rhannu ar hap, yn seiliedig ar god post, ond rhoddir mwy o flaenoriaeth i'r rheini sy'n byw ym Mangor a'r ardal gyfagos.

Alla' i gael tocyn ar y diwrnod?
Ni fydd tocynnau ar gael ar y diwrnod, ac ni ddylech fynd i'r safle heb docyn dilys.

Rwy'n poeni am effaith hyn arnaf o ran sŵn, sbwriel neu ffyrdd yn cael eu cau
Bydd y cyngor lleol yn cymryd camau i sicrhau na fydd y penwythnos yn amharu'n ormodol ar y rheini syn byw yn agos at y safle. Y Cyngor fydd yn delio â'r holl faterion yn ymwneud â rheoli traffig, sŵn a sbwriel.

Pa mor hen y mae'n rhaid i chi fod?
Does dim cyfyngiad oedran ar gyfer Penwythnos Mawr BBC Radio 1. Fodd bynnag, os ydych yn iau nag 16 oed, rhaid i chi ddod gydag oedolyn cyfrifol sy'n 18 oed neu'n hŷn. Os ydych yn edrych yn iau nag 16 oed, mae'n bosibl y gofynnir i chi am ID hefyd. Nid oes angen tocyn ar blant iau na dwy oed, ond bydd angen tocyn ar blant dwy oed a hŷn. Cofiwch hefyd fod hwn yn ddigwyddiad awyr agored, ac y disgwylir tyrfaoedd mawr.

Pa mor ddiogel yw'r system docynnau?
Mae'r system docynnau wedi cael ei defnyddio mewn amryw o ddigwyddiadau yn y gorffennol, ac rydym yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod y system yn ddiogel iawn. Bydd pob tocyn yn cynnwys manylion unigryw, ac ni ellir eu cyfnewid. Mae'r tocynnau ar gyfer y penwythnos mawr yn rhad ac am ddim, ac ni chewch eu gwerthu.

Sut byddwch yn atal pobl rhag gwerthu'r tocynnau?
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i atal pobl rhag ceisio gwerthu tocynnau, a byddwn yn gweithio gyda gwefannau trydydd parti unwaith eto er mwyn dileu negeseuon sy'n cynnig gwerthu tocynnau. Mae unrhyw un sy'n ceisio gwerthu tocynnau yn torri ein telerau ac amodau, a byddwn yn canslo'r tocynnau hynny os bydd yn bosibl.

Faint o gloch y bydd y digwyddiad yn cychwyn ac yn gorffen?
Bydd y drysau yn agor oddeutu 12 hanner dydd ar y ddau ddiwrnod. Bydd y digwyddiad yn gorffen am 10pm bob nos.

Pa gyfleusterau rydych chi'n eu darparu ar gyfer pobl anabl?
Darperir llwyfan gwylio i bobl anabl ar gyfer y ddau brif lwyfan ynghyd â chyfleusterau toiled hwylus. Ond cofiwch mai safle mewn cae yw hwn, ac nad oes llwybrau mewn rhai llefydd. Mae maes parcio ar gyfer pobl anabl ar gael, ond mae'n bosibl mai hyn a hyn o lefydd fydd ar gael.

Oes yna wyl 'fringe'?
Mi fydd Radio 1 yn rhoi'r cyfle i fandiau o Ogledd Cymru fod yn rhan o 'Wyl Fringe' Benwythnos Mawr Radio 1. Fe fydd yr wyl yn dathlu'r sÎn gerddoriaeth yn lleol -- o fandiau gitar i DJs a phopeth arall yn y canol!! Fe fydd y perfformwyr yn cael eu dewis gan banel arbenig yn cynnwys rhai o DJs Radio 1 -- Huw stephens a Bethan Elfyn -- Adam Walton o BBC Radio Wales -- Lisa Gwilym o Radio Cymru. Fe fydd yr aelodau o'r panel yma yn rhan o rwydwaith 'introducing' y BBC. Mae'r rhwydwaith yn cefnogi artisitaid sydd heb gytundebau a sydd heb ddod i amlygrwydd eto ym Mhrydain. Felly -- os ydech chi yn dod o Ogledd Cymru -- yn gerddor -- ac am gael eich h'ystyried ar gyfer gwyl 'y Ffringe' -- yna y ffordd orau i fod yn rhan ohono yw uwchlwytho eich traciau i www.bbc.co.uk/introducing. Fe fydd yna wybodaeth ynglyn a yn union pwy fydd yn chwarae ac yn lle fydd y gigs ar raglen Huw Stephens ar Radio 1 ar nos Fercher, Ebrill yr 28ain.

BBC iD

Sign in

bbc.co.uk navigation

BBC © 2012 The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.