bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

ONE LIVE HOME

AUDIO & VIDEO

Leftfield

Webchat

Seminars

Playlist Debate

Steve Lamacq's Music Business

Peel Interviewed


HIGHLIGHTS

Thu - Lamacq

Thu - Peel

Thu - One World

Thu - In town

Wed - Lamacq

Wed - Peel

Wed - In town


Tue - Lamacq

Tue - Peel

Tue - In town


Lamacq Live

Trevor Nelson

Judge Jules Live

1 Live Kicks Off

INFORMATION

Audio and Video Guides to Cardiff

Band Web Links



Radio 1 Home


One World: Live In Cardiff

Show broadcast on Radio 1 on Thursday 26th September

View this page in English

ME ONE
Me OneYmadrodd tafodieithol Ynysoedd y Caribî am "Ar fy mhen fy hun" yw Me One a dyna hefyd enw mabwysiedig Eric Martin, cerddor Prydeinig 28 oed sy'n gyflwynydd cwbl unigryw. Ganwyd Eric yng Nghaerdydd a threuliodd flynyddoedd ffurfiannol ei arddegau yn yr Unol Daleithiau yn Efrog Newydd. Wedi symud o'r diwedd i Lundain, dyma Me One yn ymgolli'n llwyr ag ethig hip hop yr oes gan gyflwyno sioeau a roddai le arbennig i artistiaid fel Demon Boyz and racking up Rakim, The Jungle Brothers, LL Cool J, Public Enemy, De La Soul ac A Tribe Called Quest.

Yn ffrwyth llafur dwy flynedd a hanner, y mae ei albwm 'real soul' cyntaf 'As Far As I'm Concerned' yn waith cignoeth a drefnwyd yn rhagorol ac a luniwyd yn ofalus o'r galon. Mae'r ffaith iddo lwyddo i gynhyrchu fersiynau diymdrech o glasur jazz bywiog y Dave Brubeck Quartet 'Take Five' ('People Shine') 1959 a balad fewnblyg y Beach Boys 'In My Room' gan roi rhyw gyffyrddiad o fynegiant ragga'n'gospel yn y gân olaf hon yn tystio i'w allu fel cerddor empathig.

BENCH
BenchBench yw Krissy Jenkins a Rachel Thomas, deuawd sy'n cydweithio a chydysgrifennu ers pum mlynedd bellach yn stiwdio 'Wings for Jesus' ym Mae Caerdydd. Mae sgiliau cynhyrchu a samplo Krissy a sgiliau lleisiol Rachel wedi asio â'i gilydd ac esblygu. Trac drymiau a bas o dan y teitl 'Time Changes' oedd recordiad cyntaf erioed Bench a wnaed ar label cwmni recordiau Open Records sy'n gangen o'r Ministry of Sound. Er i Open Records ddileu'r trac fe'i atgyfodwyd maes o law gan Curtis Mantronix yn yr Unol Daleithiau a llwyddodd i gyrraedd 15 gorau siart y cylchgrawn Herb ochr yn ochr â cherddorion fel Roni Size. Mae galw ar Kris hefyd i chwarae'r drymiau'n fyw gyda grwpiau fel y Super Furry Animals. Ymddengys y gall Bench edrych ymlaen at ragor o lwyddiant yn y man gyda'u halbwm newydd chwilboeth, arafach o ran amseriad o'r enw 'Bliss'.

ROUNDA RECORDS
Mae'r cwmni cydweithredol hwn sy'n bodoli ers llai na blwyddyn wedi hen ennill ei blwyf fel cefnogwr a dosbarthwr cerddoriaeth artistiaid nad oes ganddynt gontract hyd yn hyn ag unrhyw gwmni recordiau. Nod Rounda Records, sy'n canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar arloesi cerddoriaeth hip hop a dawns, yw tynnu sylw at yr artistiaid o dan eu hadain a sicrhau eu bod yn cael cydnabyddiaeth a sylw teilwng ar yr awyr.

Dyma rai artistiaid...

ERBAN POETS
Erban PoetsMae DJ Jaffa a Nayton da Watcha sydd ill dau'n hanu o Gaerdydd, wedi tyfu i fyny gyda'i gilydd ac yn datblygu eu sgiliau creadigol ers mwy na degawd bellach. Byddant yn gweithio gyda'i gilydd ac yn unigol gyda Jaffa'n rhannu'r samplau a Nay'ton yn creu'r odlau.

Merch sydd newydd ymuno â'r Erban Poets yw Ka'ri. Daethpwyd o hyd iddi mewn gig Kool Herc yng Nghasnewydd ac y mae ei chyfraniad wedi ychwanegu elfen ddwys at waith y grõp. Bydd Ka'ri, sydd eisoes wedi cydweithio â Smith & Mighty, hefyd yn ymddangos ar record hir Flynn & Flora a fydd i'w chael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae Cuz, sydd wrthi'n gweithio ar ei record solo gyntaf ar hyn o bryd, yn ymuno â'r Erban Poets er mwyn dwysáu'r plot ac ychwanegu at y sgiliau scratchio mewn perfformiadau byw ac wrth chwarae recordiau.

Erban PoetsBydd Nayton & Jaffa hefyd yn cynorthwyo Manchild, band cydweithredol addawol yng Nghaerdydd sy'n chwilio am gyfleoedd i artistiaid. Buont wrthi yn yr haf yn teithio'n ddibaid gyda'r band i bob un o'r prif wyliau gan gynnwys Glastonbury a V2000.

Mae Erban Poets yn cyfuno doniau unigol hynod i greu profiad cwbl unigryw y dylai pawb fod yn barod amdano.

LITTLE MISS
Mae Sophie Barras, sef Little Miss, yn ysgrifennu geiriau caneuon ers ei bod yn 13 oed ond dim ond ers pum mlynedd y mae'n cyflwyno cerddoriaeth gyda bandiau a throellwyr o gwmpas Caerdydd. Sophie a sefydlodd Rounda Records a hi yw prif ysgogwr y busnes. Mae Sophie, a symudodd i Gaerdydd o Birmingham 7 mlynedd yn ôl, wedi sicrhau lle anhepgor iddi hi ei hunan a'i nifer gynyddol o gydweithwyr ym myd cerddoriaeth Cymru. Bu'n gweithio gyda'r Erban Poets, y rapwyr Cymraeg Tystion, MC Mabon a phrosiect offerynwyr byw Pollen.

MC MABON
MC MabonGruff Meredith, y cerddor o Ogledd Cymru, yw MC Mabon. Roedd Gruff yn un o sefydlwyr y grwp hip hop cydweithredol Tystion ac y mae bellach yn dilyn gyrfa unigol. 'Mr Blaidd' yw ei albwm solo cyntaf. Mae hwn yn waith artist sy'n tynnu ei ddeunydd o bob man gan estyn ffiniau ei gerddoriaeth i gynnwys pob math o arddull - yn gerddoriaeth bync felodig, roc, hip hop, cerddoriaeth blues a seiniau amgylchol. Mae Mabon yn cyffwrdd â'r apocalyptaidd yn ogystal â'r cyffredin ac y mae ei gyfres symffonig o alawon yn awgrymu ffantasi a realiti bob yn ail. Er bod pob un o'r traciau'n perthyn i fyd gwahanol, byddant yn asio â'i gilydd i greu cyfanwaith trefnus. Mae artistiaid gwadd yn cydweithio â MC Mabon ar ei albwm i greu record ddwyieithog drawiadol sy'n trefnu deunydd Cymraeg bob ochr i gasgliad o ganeuon Saesneg. Uchafbwyntiau yw'r gân apocalyptaidd 'Waterways', y darn ysbrydoledig 'Anifail Gwyllt', y ddeuawd wallgof Space Serial Killa a leolwyd yn y gofod sy'n defnyddio doniau'r rapwr o Gaerdydd Little Miss, cân yn iaith y dyfodol o'r enw 'Neith y Byd Ddim Para'm Byth' a rapiau 'Bala v Patagonia' ar XR3i.

For further information on the Erban Poets, visit the Rounda Records website, and for more on MC Mabon check out his website.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy