Rhowch Gynnig ar Rywbeth Gwahanol
Y llynedd, roedd Pudsey wrth ei fodd gydag ymdrechion pobl o bob cwr o'r DU a gyfrannodd at greu'r Apêl orau erioed! Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd, rydym wedi llwyddo i godi £37 miliwn, sy'n swm anhygoel, diolch i ymdrech ragorol pobl hael Prydain. Mae hyn eisoes yn dechrau gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc difreintiedig ledled y DU.
Eleni, bydd yr Apêl yn cael ei chynnal a'i darlledu’n fyw ar BBC One ar 20 Tachwedd 2009 ac yn yr wythnosau cyn hynny gobeithio bydd y wlad yn fwrlwm o weithgareddau gwallgof a hwyliog i godi arian yn enw Pudsey, fel y gallwn barhau i wneud gwahaniaeth anferth i fywyd plant a phobl ifanc.
I'ch rhoi ar ben ffordd gyda'r gweithgareddau codi arian, mae gennym lond trol o syniadau gwych yn ein llyfryn codi arian isod ac mae'n bosib y cewch ysbrydoliaeth yn y canllawiau y gallwch eu llwytho oddi ar y we, yn cynnwys ryseitiau jam Pudsey a sut i addurno eich bandana Pudsey eich hun, heb sôn am lwythi o bosteri, ffurflenni noddi, a deunyddiau brandio ffynci i'ch helpu i hyrwyddo'ch gweithgaredd.
Os ydych chi am gael mwy o bosteri, ffurflenni noddi neu ddeunyddiau brandio, cliciwch y botymau isod i'w llwytho oddi ar y we:
Bydd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn agor dogfennau PDF yn awtomatig, ond efallai y bydd angen i chi lwytho Adobe Acrobat Reader. Llwythwch Adobe Acrobat Reader yma.
Llwytho i Lawr
Archebu drwy'r Post:
Os ydych chi am gal y newyddion diweddaraf am Pudsey a'i ffrindiau, yn cynnwys newyddion am selebs, deunyddiau newydd ar y wefan, a gwybodaeth am y bobl rydym ni wedi’u helpu, yna cofrestrwch i gael cylchlythyr Pudsey.
Gall y BBC roi gwybodaeth am wasanaethau/cynnwys arall, neu ddolenni atynt, yn eich cylchlythyr rheolaidd os ydym ni'n credu y byddent o ddiddordeb i chi. Wrth gwrs, gallwch ddewis stopio cael y cylchlythyrau ar unrhyw adeg. Os hoffech gael gwybod rhagor, darllenwch bolisi preifatrwydd y BBC.
Mae Plant mewn Angen y BBC yn aelod o'r Sefydliad Codi Arian


