Advertisement

Donate

Donate

Cael gwybod am yr amrywiol ffyrdd y gallwch roi'ch ceiniogau gwerthfawr i ni

Ewch ati i roi rhodd ar-lein yn awr!

Click here to donate      

Drwy Gerdyn Credyd neu Gerdyn Debyd

Derbynnir rhoddion ar y rhan fwyaf o'r prif gardiau.

Gallwch ffonio ein llinell rhoddion hefyd ar
0345 7 33 22 33.

Gall cwsmeriaid HSBC ddefnyddio eu cerdyn debyd neu gerdyn arian i gyfrannu unrhyw swm o £1 i £999.99 i BBC Plant mewn Angen drwy beiriannau twll yn y wal HSBC.

Ni chodir mwy na chyfraddau daearyddol y DU ar alwadau i rifau 03 (yn yr un modd â rhifau 01 a 02) a chânt eu cynnwys fel rhan o unrhyw funudau cynwysedig. Efallai bydd cost galwadau o ffonau symudol yn uwch.

    

Mewn Unrhyw Fanc

Defnyddiwch fonyn talu-i-mewn Apêl Plant mewn Angen y BBC a ddaw gyda'ch pecyn codi arian, neu un sydd ar gael o'ch cangen. Bydd y rhan fwyaf o fanciau'n derbyn yr arian rydych chi wedi'i gasglu ar gyfer Apêl Plant mewn Angen y BBC am fis neu ddau ar ôl yr Apêl, a bydd HSBC yn ei dderbyn drwy gydol y flwyddyn.

Mae’n help mawr i'r banciau os ydych chi'n trefnu eich ceiniogau i fagiau plastig ar wahân cyn i chi dalu'r arian i mewn. Peidiwch â phoeni, byddan nhw'n rhoi'r bagiau i chi – mi allwch chi fancio ar hynny! Os ydych chi'n delio â'ch banc dros y ffôn neu ar-lein, rhestrir y manylion isod.

Cod didoli:
40-05-30
Enw'r cyfrif:
Apêl Plant mewn Angen y BBC
Rhif y cyfrif:
51535293

Mewn Unrhyw Gymdeithas Adeiladu

Gallwch dalu eich arian i mewn yng nghanghennau'r rhan fwyaf o'r prif gymdeithasau adeiladu.

Mewn Swyddfa'r Post

Talwch eich arian i mewn drwy FREEPAY 1066'

    

Drwy'r Post

Peidiwch ag anfon arian drwy'r post. Anfonwch siec, archeb bost neu daleb CAF i:

Apêl Plant mewn Angen y BBC
Blwch Post 1000
Llundain, W12 7WJ

Gallwch anfon eich rhoddion hefyd i'ch swyddfa BBC Plant mewn Angen leol.

Dylai pob siec, archeb bost neu daleb CAF fod yn daladwy i 'Apêl Plant mewn Angen y BBC'.

    

Drwy'r Botwm Coch

Gall y sawl sy'n gwylio'r teledu drwy loeren ddigidol bwyso'r botwm coch i roi rhodd.

Bydd angen i chi gael eich cerdyn credyd neu ddebyd wrth law.

Rhaid i chi gysylltu eich blwch pen-set â llinell ffôn er mwyn gallu cwblhau'r broses rhoi

Ni chodir arnoch am yr alwad ffôn.

    

PayPoint

Ewch i'ch siop PayPoint lleol, a dweud wrth un o'r gweithwyr bod gennych rodd ar gyfer BBC Plant mewn Angen. Rhowch yr arian rydych chi am ei roi.

Byddwch yn cael derbynneb gyda manylion eich rhodd. I ddod o hyd i'ch siop agosaf, edrychwch ar: www.paypoint.co.uk/locator..

    
Coinstar

Coinstar

Gallwch roi eich arian mân yn uniongyrchol i Apêl Plant mewn Angen y BBC drwy ddefnyddio eich Canolfan Coinstar agosaf, y peiriant glas mawr mewn archfarchnadoedd ledled Prydain, yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd. I gael gwybod lle mae eich www.coinstar.co.uk.

    

Drwy PayPal

Gallwch roi ar unwaith drwy ddefnyddio eich cyfrif PayPal. Gallwch anfon rhoddion i paypalpudsey@bbc.co.uk.

Ymwelwch â www.paypal.co.uki gael rhagor o wybodaeth.

    

Cymorth Rhodd

Mae cynllun Cymorth Rhodd y Llywodraeth yn golygu eich bod chi'n gallu ein helpu i gael mwy o arian a hynny am ddim cost i chi. Am bob £1 a roddwch i ni, gallwn hawlio 25c a 3c ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer BBC Plant mewn Angen.

Mae'r arian hwn yn ein helpu ni i ddal ati, i sicrhau bod eich rhodd yn cyrraedd lle mae ei angen fwyaf!

    
donate
    
      

Os hoffech gael ‘Tystysgrif Diolch 2009’

  • Os ydych chi wedi talu'ch arian mewn banc, gan ddefnyddio bonyn talu-i-mewn BBC Plant mewn Angen sydd yn y pecyn codi arian, llenwch yr holl fanylion ar ran uchaf y ffurflen sydd ynghlwm wrth y bonyn talu. Bydd y banc yn cymryd y bonyn talu-i-mewn ar y gwaelod ynghyd â'ch arian. Gofynnwch i'r banc roi stamp ar ran uchaf y ffurflen ac yna anfonwch hi i Apêl Plant mewn Angen y BBC, Blwch Post 1000, Llundain W12 7WJ. Cofiwch anfon y ffurflen hon atom wedi'i stampio, neu ni allwn roi tystysgrif diolch i chi.
  • Os ydych chi wedi talu'ch arian mewn banc, gan ddefnyddio'r ffurflen a ddarperir yn y gangen, gwnewch yn siŵr fod stamp ar y bonyn ac yna ei anfon i Apêl Plant mewn Angen y BBC, Blwch Post 1000, Llundain W12 7WJ, ynghyd â'ch manylion cyswllt.
  • Os ydych chi wedi talu'ch arian mewn cymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post, anfonwch y bonyn â stamp arno neu'r dderbynneb i Apêl Plant mewn Angen y BBC, Blwch Post 1000, Llundain W12 7WJ, ynghyd â'ch manylion cyswllt.

Cofiwch anfon yr holl ffurflenni nawdd cyflawn pan fyddwch yn gofyn am eich tystysgrif diolch.

Am bob ceiniog a roddwch i ni, bydd ceiniog yn mynd at brosiectau i helpu plant a phobl ifanc dan anfantais yn y DU. Gallwn wneud yr adduned hon oherwydd bod yr elusen yn defnyddio ei hincwm buddsoddi a Chymorth Rhodd ar gyfer unrhyw gostau rhedeg.

Mae BBC Plant mewn Angen yn aelod o'r Sefydliad Codi Arian a'r Bwrdd Safonau Codi Arian. Mae hyn yn golygu ein bod wedi cytuno â'r Addewid Codi Arian sy'n ein hymrwymo i drin y cyhoedd â pharch, tegwch, gonestrwydd ac eglurder yn ein holl weithgareddau codi arian.

Explore the BBC

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.