Gerallt Pennant

Gellir gwrando ar Gerallt Pennant yn ystod ei raglen am gefn gwlad Cymru, Galwad Cynnar, ar fore Sadwrn.

Cerdded mynyddoedd, sgio, a garddio yw diddordebau mawr Gerallt.

Ar ol blynyddoedd o deithio led-led y wlad yn sgil ei waith fel cyflwynydd radio a theledu, mae ei wybodaeth o ddaearyddiaeth Cymru yn ddiarhebol.

A diarhebol hefyd, os nad gwyddionadurol, yw ei adnabyddiaeth o blanhigion gardd a'u henwau.