Mae’n ddrwg gennym, ‘dyw’r clip yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Cân Ysgafn: Y Ciw Cinio.

(NEUADD PANTYCELYN 1982)

Hanner awr wedi hanner oedd “amser cinio”

Ond ddeg munud ynghynt, byddai Reesy’n ciwio

Er mwyn datgan o’i safle ar flaen y lein

Be oedd yn ffiaidd a be oedd yn ffein;

Staff y ffreutur a’u dwrdio dyddiol

At y lob wthiwyd mewn cyn yr awr swyddogol;

Bathu llysenwau’n laslanciau’i gyd

A rhai’n eu cario o hyd, o hyd;

Yn ein canol, Mr Rogers, rhyw saith deg oed,

Y myfyriwr aeddfed aeddfeta’ erioed.

Yr un hen straeon wrth aros y wledd.

“Fysa Saunders Lewis yn troi’n ei fedd.”

Roedd hyn pan oedd Saunders yn dal yn fyw.

Chwibanu a bloeddio yn llenwi’r clyw

Gydag ymddangosiad dau a rannodd wely,

Nid ’mod i erioed wedi gwneud peth felly;

Mi oedd Mr Rogers, er tegwch i’r dyn,

Yn treulio bob nos yn ei lofft ei hun.

Yng nghanol y miri, yr hwyl a’r herio

Gwnes i ddysgu byw, alla’i ddim anghofio.

Ond os aiff fy mab i ddilyn r’un daith

Fydd ’na’m cinio, na chiwio, na neuadd ’chwaith.-

Arwel Roberts
9

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o