Delwedd ar gyfer Newyddion Drwg

Newyddion Drwg

Hyd: 12:34

Dysga Monica (11) fod ei mam a'i thad yn cael ysgariad. Yn llawn dicter a gofid, mae hi'n dechrau colli ei thymer gyda'i ffrindiau ac yn camymddwyn yn y dosbarth. Mae ei ffrindiau'n pryderu amdani ac yn ceisio codi ei chalon, ond does dim byd yn gweithio. Yn llawn pryder am eu ffrind, penderfyna Lara (12) ac Akira (12) fynd draw i dŷ Monica i weld os gallan nhw siarad â hi am ei theimladau. Diolch i'r drefn, mae Monica'n cael lleisio ei phryderon i'w ffrindiau a bwrw ei gofidiau. Ar ôl siarad â'i rhieni eto, mae Monica'n dal i deimlo'n anhapus ond yn dechrau dod i delerau â'r hyn sy'n digwydd i'w theulu. Awgryma Lara y dylai'r criw fynd i'r ffair, lle gallan nhw fynd ar y car sglefrio (roller coaster) er mwyn i Monica gael rhyddhau ychydig o'i dicter a'i theimladau ymosodol drwy sgrechian mor uchel â phosibl. Mae'n syniad rhagorol ac yn donig perffaith i Monica.

Ar gael ers: Gwen 3 Mai 2013

Daw'r clip hwn o

Clipiau Dysgu

Clipiau addysgol hwyliog ar gyfer plant ac athrawon gan BBC Cymru.

Delwedd ar gyfer Clipiau Dysgu

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.