Gaeltacht i Gymru?

Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Meri Huws wedi galw am ymchwil ar frys i’r posibilrwydd o greu rhanbarth penodedig ar gyfer gwarchod yr iaith yng Nghymru. Fe wnaeth ei sylwadau ar rhaglen Taro 9 ar ôl i ohebydd y rhaglen ddychwelyd o’r ardaloedd Gwyddelig yn Iwerddon. Mae’r ardaloedd hynny yn cael eu disgrifio fel y Gaeltacht ac mae’r awudurdodau lleol yno wedi mabwysiadu gwahanol fesurau i geisio gwarchod a hybu’r Wyddeleg fel iaith gymunedol ers rai blynyddoedd.
Wrth ymateb i’r syniad o ddatblygu rywbeth tebyg yng Nghymru ar gyfer y Gymraeg dwedodd Meri Huws:

"Dwi'n cytuno bod angen i ni edrych yn gloi ar y math yma o fodel, dwi ddim wedi cael fy mherswadio ar hyn o bryd. Ond mae eisiau i ni neud ymchwil penodol iawn, ac yn gloi iawn, i edrych ar be fysa Gaeltacht yn edrych fel pe bai y model yna'n cael ei drosglwyddo i Gymru."

Fe ddaw ei sylwadau ychydig ddyddiau wedi i’r cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru Adam Price alw am greu awdurdod rhanbarthol yng ngorllewin Cymru. Ar Taro 9 fodd bynnag aeth gam ymhellach gan ddatgan y dylai rhanbarth o’r fath gynnwys y cadarnleoedd Cymraeg yn y gogledd a’r gorllewin:

“Mae angen creu awdurdod rhanbarthol ar gyfer y broydd Cymraeg ... yn lle adrefnu y gogledd a’r gorllein ar wahan yn y broydd Cymreig, gad i ni gymeryd y cyfle hwn nawr i greu un awdurdod ar hyd bae Ceredigion i uno’r ardaloedd Cymreig a chreu awdurdod cryf gyda phwerau cynllunio iaith a datblygu economaidd.”

Mae’r syniad yn seiliedig ar yr ardaloedd Gwyddelig yn Iwerddon, sef y Gaeltacht lle mae na fesurau penodol yn helpu i gynnal a hybu’r Wyddeleg fel iaith gymunedol fyw.

Fe deithiodd Taro 9 i orllewin Iwerddon i weld os oedd na wersi i’w dysgu yno allai fod o yn berthnasol i’r cadarnleoedd Cymraeg.

Taro 9 travelled to the west of Ireland to see if there were lessons to learn of relevance to the Welsh speaking heartlands of Wales.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad

Daw'r clip hwn o