Cacen Nadolig Winnie James

Rysáit Cacen Nadolig Winnie
(Tun 7 modfedd sgwâr / 8 modfedd gron)

CYNHWYSION

1 pwys / 450g Cwrens
6 owns / 175g Resins
6 owns / 175g Syltanas
1 gwydraid Brandi, Sieri neu Wisgi
4 owns / 125g Ceirios

Rhowch yr uchod mewn powlen a gadewch y cyfan i sefyll dros nos

6 owns / 175g Blawd Gwyn Cryf
6 owns / 175g Siwgr Brown Tywyll
6 owns / 175g Menyn
3 Ŵy Canolig
2 owns / 50g Almonau Mân
2 owns / 50g Almonau Fflawiog
Pinsiad yr un Sbeis Cymysg, Nytmeg a Chlofs
1 llwy bwdin Rhinflas Almon, Lemwn, Oren, Fanila a Rym
1 llwy bwdin Triog du

Ar ôl cymysgu’r cyfan, coginiwch y gacen am 3 – 3½ awr ar wres 140 – 150 gradd

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

15 o funudau

Daw'r clip hwn o