Rhagflas 02/10/2012
Hyd: 00:48
Argyfwng y Gwasanaeth Iechyd.
Wrth i fyrddau iechyd Cymru gyhoeddi newidiadau pellgyrhaeddol i’r gwasanaeth beth fydd yr oblygiadau i gleifion ac i lefelau staffio? Garry Owen fydd yn teithio Cymru a Lloegr i glywed y dadleuon, o frwydr cymunedau i amddiffyn eu gwasanaethau lleol, i gipolwg ar ddyfodol gofal yn agosach i’r cartref. Bydd Taro 9 hefyd yn datgelu manylion dogfen ddrafft gyfrinachol un bwrdd iechyd sy’n trafod yr effaith ar nifer y swyddi. Pa mor iach yw dyfodol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru?
Taro 9 am 2100 ar S4C.
Ar gael ers: Maw 2 Hyd 2012
Daw'r clip hwn o
Taro Naw
Cyfres materion cyfoes ymchwiliol. Investigative current affairs series.




