iPlayer Radio Beth sy'n newydd?
Delwedd ar gyfer Ffeinal y Talwrn, Y Gler v Tir Mawr - Englyn

Ffeinal y Talwrn, Y Gler v Tir Mawr - Englyn

Hyd: 04:45

Y Gler
Englyn - Dawns

(wrth fagu Lleucu)

Os yn wyllt, noson o haf, y dawnsia
I diwns nas deallaf,
Am un nos ailgamu wnaf
I oes aur ein waltz araf.

Hywel Griffiths
9 1/2 pwynt

Tir Mawr
Englyn - Dawns

(Lledodd Dawns Ysbrydion fel diwygiad drwy lwythau brodorol America yn 1890 cyn y lladdfa olaf yn Wounded Knee)

Curent, bob mam a phlentyn, - ar ddaear
Arwyr ddoe'n un llinyn
I roi'n nos yr esgyrn hyn
Enaid mor goch â'r croenwyn.

Gareth Williams
9 pwynt

Ar gael ers: Sad 4 Awst 2012

Daw'r clip hwn o

Y Talwrn 2012, Ffeinal y Talwrn, Y Gler v Tir Mawr

Y Gler a Tir Mawr yn cystadlu yn y rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol 2012.

Darllediad Cyntaf: 12 Awst 2012

Delwedd ar gyfer Ffeinal y Talwrn, Y Gler v Tir Mawr Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar hyn o bryd

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.