-
Geiriau'r Gân: Gwen a Mair ac Elin
Gwen a Mair ac Elin,
Yn bwyta lot o bwdin,
A Benja bach yn mynd o'i go,
A chrïo'n anghyffredin.
Ie, Gwen a Mair ac Elin,
Yn bwyta lot o bwdin,
A Benja bach yn mynd o'i go,
A chrïo'n anghyffredin.
Ifan bach a minne,
Yn mynd i Lunden Glame;
Mae'r gwynt yn oer a'r ffordd yn bell,
Mae'n well inni aros gartre.
Ie, Ifan bach a minne
Yn mynd i Lunden Glame;
Mae'r gwynt yn oer a'r ffordd yn bell,
Mae'n well inni aros gartre.
Ifan bach a minne,
Yn mynd i Lunden Glame,
I roddi cyfraith ar y gath,
Am yfed lla'th y bore.
Ie Ifan bach a minne,
Yn mynd i Lunden Glame,
I roddi cyfraith ar y gath,
Am yfed lla'th y bore.
Codi'n fore, fore,
A ffrwyno'r gaseg wine,
Modryb Sian a f'ewyrth Sion,
Yn synnu 'nhraed eu sane.
Ie, codi'n fore, fore,
A ffrwyno'r gaseg wine,
Modryb Sian a f'ewyrth Sion
Yn synnu 'nhraed eu sane.


