-
Geiriau'r gân: Y Fasged Wye
Hen fenyw fach a basged o wye,
O Landeilo i Landybie,
Ar y bont ar bwys Llandybie,
Cwmpws y fasged, a lawr a’th y wye.
Hen fenyw fach a basged o flode,
O Landeilo i Landybie,
Ar y bont ar bwys Llandybie,
Cwmpws y fasged, a lawr a’th y blode.
Hen fenyw fach a basged o gathe,
O Landeilo i Landybie,
Ar y bont ar bwys Llandybie,
Cwmpws y fasged, a lawr a’th y cathe.
Hen fenyw fach heb ddim yn ei breichie,
O Landeilo i Landybie,
Ar y bont ar bwys Llandybie,
Cwmpws y bont, a lawr yr a’th hithe.
Hen wraig fach yn gyrru o gwyddau,
O Langollen draw i Ddolgellau,
Ac yn dw’edyd gair wrth y llanciau,
Gyrrwch ymlaen ac mi ddaliaf innau.


