Cymorth
Gwybodaeth a llinellau cymorth am wahanol bynciau.
Trais
Os ydych chi am fwy o wybodaeth am drais, ewch i’r gwefannau isod:
S4C - Cymorth - Trais - www.s4c.co.uk/cymorth/categori/trais
Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru gyfan - http://www.allwaleshelpline.org.uk/index.php?option=com_content&view=article&id=87&Itemid=100Victim
Support - www.victimsupport.org.uk
Rape Crisis - www.rapecrisis.org.uk
Survivors UK - www.survivorsuk.org
The Survivors Trust - www.thesurvivorstrust.org
Bwlio
Mae cael eich bwlio yn brofiad annifyr iawn, i unrhyw un, unrhyw oed. Mae'r wybodaeth isod i'ch helpu os ydych chi neu rywun sy'n agos atoch chi yn cael eich bwlio. Mae 'na wybodaeth hefyd i rieni sy'n amau bod eu plant yn cael eu bwlio.
Cymorth:
Childline Cymru
Yn blentyn neu'n berson ifanc, gallwch ffonio Childline Cymru am ddim, neu ymweld â'r wefan sydd hefyd yn cynnig help. Mae'r oedolion sy'n ateb eich galwadau yna i helpu gydag unrhyw broblem yn eich bywyd. Os nad ydych yn clywed yn dda iawn, gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn tecst.
Rhif ffôn: 0800 1111
Ffôn tecst: 0800 400 222 (Llun-Gwener, 9.30am-9.30pm, Sad-Sul, 11am-8pm)
Safle we: www.childline.org.uk
NSPCC - there4me
Mae'r gwasanaeth yma'n gysylltiedig â Childline. Maent yn cynnig mwy o wybodaeth am fwlio a lle i adael negeseuon a chael help ar-lein gydag unrhyw broblem, ar ôl i chi gofrestru ar y wefan.
Safle we: www.there4me.com
Bullies Out
Mae Bullies Out yn elusen Gymreig sy'n cynnig gwybodaeth dda ar fwlio i blant ac oedolion, yn ogystal â fforwm cefnogol ar-lein.
Safle we: www.bulliesout.com
Bullying UK
Mae gwefan Bullying UK yn cynnwys gwybodaeth fanwl a chyngor ar bob math o fwlio, yn cynnwys help unigol i chi a sut i ddelio â'r broblem yn yr ysgol.
Safle we: www.bullying.co.uk
BBClic
Mae 'na gyngor bywiog ar sut i guro'r bwlis ar y wefan BBClic.
Safle we: www.bbclic.com
Mosgito
Gwefan Mosgito BBC Cymru.
Safle we: bbc.co.uk/mosgito
Kidscape
Mae Kidscape yn cynnig cyngor i oedolion ar sut i helpu plant i ddelio gyda bwlio. Anelir y wefan at bobl ifanc hefyd, gyda chyngor ymarferol ar sut i gadw'n saff.
Rhif ffôn: 08451 205 204 (Llun - Gwener, 10am-4pm)
Safle we: www.kidscape.org.uk
Parentline Plus
Llinell gymorth 24 awr, wedi ei staffio gan rieni neu bobl mewn rôl rhiant, maent yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar ystod o faterion yn cynnwys bwlio, ymddygiad, trais rhywiol, addysg, alcohol a chyffuriau.
Rhif ffôn: 0808 800 2222 (24/7)
Ffôn tecst: 0800 783 6783
Safle we: www.parentlineplus.org.uk
Ace
Mae'r Ganolfan Cyngor ar Addysg (ACE) yn cynnig gwybodaeth am addysg wladol yng Nghymru a Lloegr, i blant a phobl ifanc rhwng 5-16. Cynigir cyngor ar bynciau fel gwaharddiadau o'r ysgol, bwlio, addysg arbennig ac apelion ysgol. Maent hefyd wedi ysgrifennu pamffledyn defnyddiol ar daclo bwlio - manylion ar gael o'r wefan.
Rhif ffôn: 0808 800 5793 (10am-5pm, Llun-Gwener)
Safle we: www.ace-ed.org.uk
YoungMinds
Llinell gymorth i unrhywun sy'n poeni am iechyd meddwl neu unrhyw broblemau emosiynol gan blentyn neu berson ifanc - problemau sydd yn aml yn codi o ganlyniad i fwlio. Maent yn cynnig gwybodaeth glir am iechyd meddwl a manylion gwasanaethau cyffredinol a lleol.
Rhif ffôn: 0800 018 2138 (Llun-Gwener, 10am-4pm a Mercher, 6pm-8pm)
Safle we: www.youngminds.org.uk
Rhywioldeb a pherthynas
Am fwy o wybodaeth am rywioldeb a pherthynas, ewch i’r gwefannau isod.
Cymorth:
Stonewall Cymru
Mudiad sy'n edrych ar ôl a hybu hawliau lesbiaid, hoywon a phobl ddeurywiol yng Nghymru, ac maent yn gallu rhoi cyngor ar bynciau fel partneriaeth sifil a gwahaniaethu anffafriol.
Rhif ffôn: 08000 522020
Safle Gwe: www.stonewallcymru.org.uk
FFLAG
Mae FFLAG yn cynnig cefnogaeth i grwpiau rhieni lleol sy'n ceisio dod i ddeall aelodau o'r teulu sy'n lesbiaid, hoywon neu'n ddeurywiol. Maent hefyd yn gweithio ar brosiectau i daclo bwlio yn erbyn hoywon.
Rhif ffôn: 0845 652 0311
Safle Gwe: www.fflag.org.uk
Straight Spouse Network
Yr unig fudiad rhyngwladol sy'n rhoi cefnogaeth uniongyrchol i'r sawl sy'n darganfod bod eu gŵr, gwraig neu bartner yn hoyw.
Safle Gwe: www.straightspouse.org
Relate
Mae Relate yn cynnig cwnsela a gwasanaethau eraill i gwplau sy'n cael problemau yn eu perthynas.
Rhif ffôn: 0300 100 1234
Safle Gwe: www.relate.org.uk
Canser
Os ydych chi yn darganfod lwmp ar eich bron, rhaid cofio gall fod esboniad arall heblaw am ganser, a'r peth cyntaf i'w wneud os yn bryderus yw mynd at eich doctor i wneud yn siwr.
Mae'r wybodaeth isod i'ch helpu os ydych chi neu rywun sy'n agos atoch chi yn byw gyda'r cyflwr, neu angen rhagor o wybodaeth am symptomau a thriniaeth.
Cymorth:
Breast Cancer Care
Mae Breast Cancer Care yna i'r sawl sydd yn byw gyda'r math yma o ganser gyda llinell gymorth genedlaethol am ddim yn cynnig cyngor i bwy bynnag sydd wedi ei heffeithio gan hyn, yn cynnwys y teulu.
Rhif ffôn: 0808 800 6000 (Llun - Gwener, 09.00-17.00, Dydd Sadwrn 09.00 -14.00)
Safle Gwe: www.breastcancercare.org.uk
Tenovus
Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth am brofion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.
Rhif ffôn: 029 2076 8850
Safle Gwe: www.tenovus.org.uk
Bron Brawf Cymru
Mae Bron Brawf Cymru yn cynnig sgrinio drwy famograffi bob tair blynedd i ferched dros 50. Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu cewch fanylion am hyn yn awtomatig, ond i gael mwy o wybodaeth am y broses sgrinio, ewch i'r gwefan. Os ydych o dan 50 ac yn pryderu oherwydd hanes teuluol, y peth gorau i wneud yw cael gair gyda'ch meddyg, i weld os oes angen prawf genetig arnoch.
Rhif ffôn: 029 2039 7222 / 01792 459988 / 01492 860888
Safle Gwe: www.screeningservices.org.uk
Galw IECHYD Cymru
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
Rhif ffôn: 0845 46 47 (24 awr y diwrnod)
Safle Gwe: www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Colli plentyn
Am fwy o wybodaeth am golli plentyn, ewch i’r wefan isod:
BBC - Physical Health - Miscarriage
Safle Gwe: http://www.bbc.co.uk/health/physical_health/pregnancy_fertility/pregnancy_miscarriage.shtml
Yfed dan oedran
Am fwy o wybodaeth am yfed o dan oed, ewch i'r adran Cymorth ar wefan S4C.
S4C - Cymorth - Yfed o dan oed
Strôc
Am fwy o wybodaeth am strôc, ewch i'r adran Cymorth ar wefan S4C.
S4C - Cymorth - Strôc
Beichiogrwydd annisgwyl
Gwnaeth Lois ddarganfod ei bod yn feichiog yn annisgwyl yn Pobol y Cwm. Am fwy o wybodaeth am feichiogrwydd annisgwyl, ewch i'r adran Cymorth ar wefan S4C.
S4C - Cymorth - Beichiogrwydd Annisgwyl
Galar
Galar yw'r emosiwn mae pobl yn ei deimlo pan maent yn colli rhywun sy'n agos atynt. Mae ymateb pob unigolyn yn wahanol. Mae'n bwysig iawn rhoi digon o amser i bobl ddod i dermau gyda'r golled.
Dyma rai o'r emosiynau gall pobl deimlo wrth ymdopi gyda phrofedigaeth:
Gofid - teimlad o golled enfawr wrth ddod i delerau â phrofedigaeth
Gwadu - anodd derbyn marwolaeth, cael sioc
Euogrwydd - teimlo cyfrifoldeb am y brofedigaeth
Dicter - teimlo'n flin tuag at y person am farw neu gydag eraill sydd wedi dioddef colled
Ofn - mae gan rai pobl ofn marw yn ogystal â dioddef o ofn ymarferol ynglyn â phwy fydd yn eu gwarchod
Anhwylder Corfforol - cynnydd neu leihad mewn patrwm bwyta, hunllefau, blinder, poenau fel poen bol, cur pen a phoen cefn
Cymorth:
Cruse Cymru
Gwasanaeth cynghori cenedlaethol o'r radd flaenaf, sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth gymdeithasol i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae 11 grŵp yng Nghymru. Cynigir cyngor ar brofedigaeth, cyngor i blant a chyngor dros y ffôn gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi a'u dethol yn ofalus.
Rhif ffôn: 0844 477 9400 graddfa galwad lleol
Safle Gwe: www.crusebereavementcare.org.uk
The Compassionate Friends
Llinell gymorth a gwefan gyda fforymau wedi eu hanelu at rieni sydd wedi colli plant.
Rhif ffôn: 0845 123 2304 10am-4pm, wedyn 6.30pm-10.30pm
Safle Gwe: www.tcf.org.uk
Y Samariaid
Mae'r Samariaid yna i bwy bynnag sydd angen help emosiynol pan yn wirioneddol isel yr ysbryd. Maent ar gael 24 awr y diwrnod.
Rhif ffôn: 08457 90 90 90 (llinell 24 awr)
Safle Gwe: www.samaritans.org.uk