Debbie Collins
Actores: Maria Pride
Details
Mae Debbie Collins yn gymeriad brith, lliwgar sy'n fodlon gwrthsefyll unrhyw sefydliad neu unigolyn.
Mae'n eofn, direidus a digywilydd. Yn fam i dri o blant - Liam, Vicky a Ricky – gyda thri tad gwahanol, mae wedi treulio amser yn Llundain a Sbaen, yn ogystal ag yn y carchar. Mae'n byw yn Maes-y-Deri gyda Ricky a'i dad Mark Jones ond ffrindiau yn unig ydy Debbie a Mark erbyn hyn.
Mae hi wastad yn chwilio am ryw gynllun newydd i wneud arian, ac yn aml mae’r pentrefwyr yn gwylltio gyda hi oherwydd bod ganddi ffyrdd ddigon ansensitif ac ymwthgar o wneud hynny. Mae ei pherthynas gyda Liam, ei mab hynaf wedi bod yn ddigon sigledig ar brydiau, gan ei fod ef wedi gofalu yn emosiynol am y plant iau pan oedd Debbie yn rhoi ei anghenion ei hunan yn gyntaf.
Gan amlaf, digon diniwed yw anturiaethau Debbie ond mi aeth gam yn rhy bell pan osododd gyffuriau ym mag Ricky ar y ffordd adref o wyliau yn Sbaen a bu’n rhaid iddi fynd i’r carchar am sbel am wneud hynny. Roedd hyn yn siglad mawr iddi ac mae wedi gwneud ei gorau i flaenoriaethu Ricky ers hynny.
Debbie Collins (English)
Debbie Collins is a colourful character who’s not afraid to stand up for herself.
She’s cheeky, mischievous and shameless. Mother to three children – Liam, Vikky and Ricky, each by a different father – she has lived in London and Spain, as well as spending time in prison. She now lives in Maes-y-Deri with Ricky and his father, Mark Jones.
Debbie is always looking for a money-making scam and often angers the villagers with her brash, insensitive manner. Her relationship with Liam hasn’t been easy because he often had to care for the younger children when Debbie put herself first.
She’s usually innocent in her actions, but went too far when she planted drugs in Ricky’s luggage while on holiday in Spain and ended up in jail for a long time. This made her see sense and she now does her best for Ricky, in her own unique way!
Cymeriadau'r Cwm
-
Angela Probert
-
Anita Pierce
-
Britt White
-
Cadno - Cathryn Richards
-
Colin Evans
-
Dai 'Sgaffalde' Ashurst
-
Dani Thomas
-
Debbie Collins
-
Diane Ashurst
-
Ed Charles
-
Eifion Rowlands
-
Eileen Markham
-
Ffion Llywelyn
-
Garry Monk
-
Gaynor Evans
-
Gemma Charles
-
Gethin Thomas
-
Gwyneth Jones
-
Huw White
-
Hywel Llywelyn
-
Iolo White
-
Jim Probert
-
Jinx - Huw Jenkins
-
Kevin Powell
-
Lois Evans
-
Macs White
-
Marian
-
Mark Jones
-
Meic Pierce
-
Rhys Llywelyn
-
Sheryl Hughes
-
Sioned Rees
-
Siôn White
-
Yvonne Evans