Ynglŷn â'r gyfres

Bethan Rhys Roberts, Vaughan Roderick a'u gwesteion sy'n trafod straeon gwleidyddol y dydd yn fyw o'r Senedd ym mae Caerdydd.

Ynglŷn â'r gyfres

Os hoffech chi awgrymu pynciau i'w trafod, neu gynnig gwesteion yr hoffi eu gweld ar CF99, yna cysylltwch ar yr ebost CF99@bbc.co.uk.

Gwyliwch CF99 ar iPlayer a S4/Clic.

 

Côd post unigryw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw CF99 ac o adeilad eiconig y Senedd y daw'r rhaglen wleidyddol. Bethan Rhys Roberts a Vaughan Roderick sydd wrth y llyw wrth iddyn nhw fwrw golwg bywiog ar bynciau trafod yr wythnos.

Mae Bethan a Vaughan yn cynnig golwg gyfoes a ffres ar wleidyddiaeth ein gwlad gan wahodd gwesteion gwahanol i ymuno â nhw yn fyw ar CF99 i gnoi cil dros ddigwyddiadau'r wythnos.

Gwleidyddiaeth Cymru sy'n cael y rhan fwyaf o sylw wrth reswm ond mae'r sioe hefyd yn cadw llygad ar wleidyddiaeth San Steffan, Yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ewrop. Rhaglen gyfoes yw hon sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i'r gynulleidfa.

 

English
Welsh language weekly political discussion programme with Bethan Rhys Roberts, Vaughan Roderick and guests. If you would like to suggest topics to be discussed on CF99, email the team: CF99@bbc.co.uk

 

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.