Gareth Glyn
Mae Gareth Glyn yn cyflwyno'r rhaglen newyddion y Post Prynhawn.
Details
Mae Gareth wedi bod yn cyflwyno ers 1978, ond yn dal i ddysgu'r grefft.
Mae ganddo fywyd arall hefyd fel cyfansoddwr, felly tuag amser cinio bob dydd mae'n rhaid i Gareth dynnu un het a gwisgo un arall - ond mae'r gwaith ar y Post Prynhawn yn golygu bod yn rhaid iddo gadw golwg ar y newyddion bob munud o'r dydd.
O Fangor mae'r rhaglen yn dod, ac mae Gareth yn byw rhyw bymtheng milltir i'r gogledd, ger Llangefni yn Sir Fôn.
Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch.