
Mae'r BBC wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol chi a'ch teulu wrth i chi ddefnyddio gwasanaethau'r BBC. Rydym am i'n gwasanaethau fod yn amgylcheddau diogel a phleserus i'n cynulleidfa. Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn ymwneud â'n defnydd o unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni trwy wefannau bbc.co.uk.
O bryd i'w gilydd, er mwyn darparu ystod lawn gwasanaethau'r BBC i chi, mae'n ofynnol i ni gasglu gwybodaeth amdanoch.
Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio'r canlynol:
Fel y nodir uchod, mae'r BBC wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Yn unol â'r gyfraith, pryd bynnag y byddwch yn darparu'r wybodaeth hon, rydym yn rhwym i ddefnyddio'ch gwybodaeth yn unol â'r holl gyfreithiau sy'n ymwneud â diogelu gwybodaeth bersonol, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 1998 (yn y Polisi Preifatrwydd hwn, cyfeirir at y cyfreithiau hyn ar y cyd fel y "deddfau diogelu data").
Mae'r gwefannau yn cynnwys hyperddolenni at wefannau sy'n berchen i ac a reolir gan drydydd partïon. Mae gan y gwefannau trydydd parti hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain, gan gynnwys cwcis, ac rydym yn eich annog i'w hadolygu. Byddant yn rheoli'r defnydd o wybodaeth bersonol a gyflwynir gennych neu a gesglir gan gwcis wrth i chi ymweld â'r gwefannau hyn. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd ar gyfer arferion preifatrwydd y gwefannau trydydd parti hyn, ac rydych yn defnyddio'r gwefannau hyn ar eich menter eich hun.
Pan fyddwch yn cofrestru i gymryd rhan mewn gwasanaeth neu dderbyn gwasanaeth o unrhyw wefan bbc.co.uk, fel newyddlenni, cystadlaethau, sgyrsiau byw, negesfyrddau neu'n cofrestru gyda'r system gofrestru ar-lein sengl gyffredinol a ddefnyddir ar draws gwahanol rannau bbc.co.uk, o'r enw "Cofrestru Untro", efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol amdanoch. Gall hyn gynnwys gwybodaeth fel eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn neu rif ffôn symudol, neu ddyddiad geni. Efallai y bydd tudalennau gwe gwahanol yn gofyn am wybodaeth bersonol wahanol.
BTrwy gofnodi eich manylion yn y meysydd gofynnol, byddwch yn caniatáu i'r BBC a'i ddarparwyr gwasanaeth ddarparu'r gwasanaethau i chi a ddewisir gennych.
Sylwch, o bryd i'w gilydd ar dudalennau gwe penodol, y bydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ychwanegol, ac weithiau gwybodaeth bersonol sensitif (e.e. os ydych yn anfon cais i fod yn gyfrannwr ar ran plaid wleidyddol, efallai y bydd yn rhaid i ni wybod eich tueddiadau gwleidyddol). Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn nodi ymhellach ar y tudalennau gwe hyn pam ein bod yn casglu eich gwybodaeth a sut byddwn yn ei defnyddio.
Mae'r BBC yn defnyddio cwcis hefyd (gweler paragraff 13 isod am fanylion) ac yn casglu cyfeiriadau IP (rhif unigryw sy'n gallu nodi cyfrifiadur penodol neu ddyfais rhwydwaith arall ar y rhyngrwyd yw cyfeiriad IP). Rydym yn defnyddio meddalwedd dadansoddi i edrych ar gyfeiriadau IP a chwcis er mwyn gwella eich profiad fel defnyddiwr. Ni ddefnyddir y wybodaeth hon i ddatblygu proffil personol ohonoch, a chaiff y ffeiliau cofnodi eu glanhau'n rheolaidd.
Rydym hefyd yn defnyddio eich cyfeiriadau IP i bennu a ydych yn cael mynediad at y gwasanaethau o'r DU ai peidio. Os nad ydych, cewch eich ailgyfeirio at fersiwn rhyngwladol safle bbc.co.uk (gweler paragraff 11 am fanylion.)
Bydd y BBC yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at nifer o ddibenion, gan gynnwys y canlynol:
Lle bo'r BBC yn bwriadu defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at unrhyw ddibenion eraill, byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi gwybod i chi yn gyntaf. Yn ogystal, rhoddir cyfle i chi wrthod neu dynnu'n ôl eich caniatâd i'w defnyddio at ddibenion ac eithrio'r rhai a restrir uchod.
Gall y bydd y BBC yn cysylltu â chi:
Bydd tudalennau lleol yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am sut bydd y BBC yn cysylltu â chi o ran gwasanaethau penodol.
Ni fydd y BBC yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata, nac yn hyrwyddo gwasanaethau newydd i chi, oni bai i chi gytuno'n benodol i ni gael cysylltu at y dibenion hyn.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol, oni bai lle bo'n ofynnol datgelu neu lle bo'n cael ei ganiatáu yn unol â'r gyfraith (er enghraifft, i gyrff llywodraethol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith) neu fel y disgrifir ym mharagraff 7 isod. Yn gyffredinol, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn y BBC yn unig. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd bydd y BBC yn defnyddio trydydd partion i brosesu eich gwybodaeth. Bydd y BBC yn ei wneud yn ofynnol i'r trydydd partion hyn gydymffurfio'n agos â'i holl gyfarwyddiadau, a bydd yn ei wneud yn ofynnol iddynt beidio â defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at eu dibenion busnes hwythau.
Sylwch, os ydych chi'n cael mynediad at y BBC o'r tu allan i'r DU ac yn cyflwyno sylw neu g?yn yngl?n ag unrhyw elfen hysbysebu (gweler paragraff 11 am fwy o fanylion yngl?n â hyn), y gall y BBC drosglwyddo eich gohebiaeth i BBCW at ddibenion eich ateb yn unig.
Os byddwch yn postio cynnwys tramgwyddus, amhriodol neu annymunol yn unrhyw le ar bbc.co.uk, neu'n anfon deunydd tebyg at bbc.co.uk, neu'n ymwneud ag unrhyw ymddygiad aflonyddgar arall o fath arall ar bbc.co.uk, gall y BBC ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i atal ymddygiad o'r fath.
Lle bo'r BBC, yn rhesymol, o'r farn eich bod, neu y gall eich bod, yn torri ar unrhyw un o gyfreithiau Cymru neu Loegr (e.e. am fod cynnwys a bostiwyd gennych yn ddifenwol), gall y BBC ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i roi gwybod i drydydd partion perthnasol, fel eich cyflogwr, darparwr e-bost ysgol/Rhyngrwyd neu asiantaethau gorfodi'r gyfraith am y cynnwys a'ch ymddygiad.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n iau, gofalwch gael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw bob tro y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i wefan y BBC. Ni chaniateir i ddefnyddwyr heb y caniatâd hwn roi unrhyw wybodaeth bersonol i ni.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau am y cyfnod y bo'n angenrheidiol ar gyfer y gwasanaeth perthnasol, neu am y cyfnod a nodir mewn unrhyw gontract perthnasol rhyngoch a'r BBC neu restr gadw gorfforaethol y BBC (cronfa ddata yw hon sy'n diffinio pa ddogfennau y dylid eu cadw ac am ba hyd). Os byddwch yn dymuno diddymu eich cofrestriad fel aelod o bbc.co.uk, ar ôl i gyfrif gael ei ddileu gosodir baner goch ar y gronfa ddata ac, er na all pobl ddefnyddio'r wybodaeth bersonol, bydd yn parhau ar y system am gyfnod o flwyddyn at ddibenion gweinyddu cyn cael ei dileu'n awtomatig.
Yn gyffredinol, pan fyddwch yn cyfrannu i bbc.co.uk, ni fydd y BBC ond yn cadw'ch cynnwys am ba hyd bynnag y mae ei angen yn rhesymol at y diben(ion) y cafodd ei gyflwyno. Er enghraifft, ni fydd y BBC yn cadw ymgais mewn cystadleuaeth ffotograffig ond am barhad y gystadleuaeth yn unig. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd eitemau a gyflwynwyd ar gyfer prosiectau eraill (e.e. gwefan People's War) yn cael eu cadw am gyfnod hwy, neu hyd yn oed yn barhaol.
Yn ogystal, mae gan y BBC, fel sefydliad a gyllidir gan arian cyhoeddus, rwymedigaeth i gofnodi cipluniau hanesyddol a all gynnwys ychydig o Gynnwys a Gynhyrchir gan Ddefnyddwyr h.y. cynnwys a ddarperir gan ddefnyddwyr. Gan hynny, efallai y bydd ychydig gynnwys a gyflwynir i'r BBC neu a rennir â'r BBC yn cael ei gadw am gyfnodau estynedig neu, o bosibl, am gyfnod amhenodol yn Archif y BBC, sy'n wir am gyfraniadau Newyddion a gyhoeddir. Efallai y bydd achlysuron prin hefyd lle byddwn yn rhannu eich cyfraniad â thrydydd partion er mwyn cynnal archifau hanesyddol (e.e. rhoddwyd cyfraniadau yngl?n â phrofiadau pobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd i'r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol). Lle bo modd, byddwn yn ymdrechu i roi gwybod i chi ymlaen llaw, neu'n rhoi gwybod i chi'n ddiweddarach, mewn achosion lle byddwn yn debygol o gadw'r cynnwys am gyfnod amhenodol neu ei drosglwyddo i archif hanesyddol cymeradwy.
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennych hawl i wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae'r BBC yn ei chadw amdanoch ac i gywiro unrhyw wallau. (Codwn bris o £10 am geisiadau am wybodaeth a bydd yn ofynnol i chi brofi pwy ydych â 2 ddogfen adnabyddiaeth ffotograffig gymeradwy.) Byddwn yn gwneud ymdrech resymol i gyflenwi, cywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol amdanoch yn eich ffeiliau.
Cyfeiriwch geisiadau a chwestiynau ynglŷn â hyn neu unrhyw gwestiwn arall ynglŷn â'r Polisi Preifatrwydd hwn at y Swyddog Diogelu Data, Room 2252, White City Building, 201 Wood Lane, London, W12 7TS (Email: dpa.officer@bbc.co.uk).
Cyhoeddir www.bbc.co.uk yn y DU gan y BBC. Ar gyfer defnyddwyr rhyngwladol sy'n cael mynediad at y safle o'r tu allan i'r DU, cyflwynir y safle i chi gan is-gwmni masnachol y BBC, sef BBC Worldwide Cyf. ("BBCW"), ar sail fasnachol (h.y. bydd gan rai o'r tudalennau yr ewch atynt hysbysebion arnynt) o dan drwydded oddi wrth y BBC. Fodd bynnag, bydd yr holl wybodaeth bersonol a gyflwynir gennych i'r safle yn mynd yn uniongyrchol i'r BBC a chaiff ei phrosesu yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn (ac unrhyw delerau lleol sy'n gymwys ar wefannau) oni bai y bo telerau'r safleoedd hyn yn nodi i'r gwrthwyneb.
Dylech nodi bod BBCW yn gosod nifer o gwcis ar www.bbc.co.uk a gall gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr rhyngwladol drwy'r rhain - gweler paragraff 13 i gael mwy o wybodaeth am gwcis.
Efallai y bydd y polisi preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd, felly efallai y byddwch yn dymuno edrych arno bob tro y byddwch yn cyflwyno gwybodaeth bersonol i unrhyw wefan bbc.co.uk. Bydd dyddiad y diwygiadau diweddaraf yn ymddangos ar y dudalen hon.
Ychydig bach o ddata yw cwci, sy'n aml yn cynnwys adnabyddwr unigryw a anfonir at borwr eich cyfrifiadur neu ffôn symudol (y cyfeirir atynt yma fel "dyfais") o gyfrifiadur gwefan ac a storir ar yriant caled eich dyfais. Gall pob gwefan anfon ei gwci ei hun at eich porwr os bydd dewisiadau eich porwr yn caniatáu hynny, ond (i ddiogelu eich preifatrwydd) ni fydd eich porwr yn caniatáu i wefan gael mynediad ond at gwcis y mae wedi'u hanfon atoch eisoes, nid y cwcis a anfonwyd atoch gan wefannau eraill. Bydd llawer o wefannau'n gwneud hyn pryd bynnag y bo defnyddiwr yn ymweld â nhw er mwyn olrhain llif traffig ar-lein.
Mae cwcis yn cofnodi gwybodaeth am eich dewisiadau ar-lein ac yn caniatáu i ni deilwra'r gwefannau yn ôl eich diddordebau. Mae gan ddefnyddwyr gyfle i osod eu dyfeisiadau i dderbyn pob cwci, i roi gwybod iddynt pan fydd cwci'n cael ei gyhoeddi, neu i beidio â derbyn cwcis o gwbl. Mae'r olaf o'r rhain yn golygu nad oes modd darparu gwasanaethau personoledig penodol i'r defnyddiwr hwnnw ac, o'r herwydd, efallai na fydd modd i chi fanteisio'n llawn ar holl nodweddion bbc.co.uk. Mae pob porwr yn wahanol, felly edrychwch ar fwydlen "Help" eich porwr i ddysgu sut i newid eich dewisiadau o ran cwcis.
Yn ystod unrhyw ymweliad â bbc.co.uk, caiff y tudalennau a welir gennych, ynghyd â chwci, eu lawrlwytho i'ch dyfais. Mae llawer o wefannau yn gwneud hyn, am fod y cwcis yn caniatáu i gyhoeddwyr gwefannau wneud pethau defnyddiol fel canfod a yw'r ddyfais (ac, mwy na thebyg, y sawl sy'n ei ddefnyddio) wedi ymweld â'r wefan o'r blaen. Gwneir hyn yn ystod ail ymweliad trwy edrych i weld, a chanfod, y cwci a adawyd yno yn ystod yr ymweliad diwethaf.
Gall gwybodaeth a gyflenwir gan gwcis ein helpu i ddadansoddi proffil ein hymwelwyr a'n helpu i ddarparu profiad gwell i chi fel defnyddiwr. Er enghraifft: aethoch at ein tudalennau addysg yn ystod ymweliad blaenorol, ac efallai y byddwn yn gweld hyn trwy edrych ar eich cwci ac yn amlygu gwybodaeth ychwanegol am addysg yn ystod eich ail ymweliad ac yn ystod ymweliadau dilynol.
Mae'r BBC (a BBCW mewn perthynas â defnyddwyr rhyngwladol) hefyd yn defnyddio nifer o gwmnïau mesur ac ymchwilio annibynnol. Maent yn casglu gwybodaeth yngl?n ag ymwelwyr â safleoedd y BBC ar ein rhan gan ddefnyddio cwcis, data ffeiliau cofnodi a chod sydd wedi'i blannu ar ein gwefan. Mae'r BBC a BBCW yn defnyddio'r math hwn o wybodaeth i helpu i wella'r gwasanaethau a ddarperir ganddo i'w ddefnyddwyr. Mae'r BBC a BBCW yn ei wneud yn hollol ofynnol i drydydd partion beidio â defnyddio unrhyw wybodaeth at eu dibenion busnes neu ddibenion eraill eu hunain (gweler paragraff 6 uchod). Gall rhannau penodol eraill o bbc.co.uk ddefnyddio cwcis am reswm penodol - er enghraifft, i helpu gêm ar-lein i weithio'n effeithiol ar eich dyfais. Os yw hyn yn berthnasol, bydd telerau lleol y rhan honno o'r wefan yn egluro hyn, a dylech gyfeirio at y telerau lleol hynny am fwy o wybodaeth.
Gellir dod o hyd i restr o'r prif gwcis a osodir gan bbc.co.uk (a'r hyn y defnyddir pob un ar ei gyfer) ynghyd â dulliau i leihau nifer y cwcis a dderbynnir gennych, ar Rhestr Gwcis y BBC a Sut i Wrthod Cwcis.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â;
The Data Protection Officer(E-bost: dpa.officer@bbc.co.uk).
© MMIX