
Uchafbwyntiau rhaglen Dewi Llwyd bob bore Sul, yn mynd drwy'r papurau, yn sgwrsio gyda'i westeion arbennig ac yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth. Highlights from Dewi Llwyd on a Sunday morning with the paper review, chat and more.
Mon, 17 Jun 13
Hyd:
70 munud
Available:
30 days remaining
Yr athletwraig o fri, Non Evans oedd y gwestai penblwydd. Cafodd y papurau eu hadolygu gan Branwen Niclas a Prysor Williams, a Dylan Llywelyn oedd yn cadw golwg ar y tudalennau chwraeon. A bu Sioned Williams yn trafod 'Tir', ffilm am fferm deuluol Gymreig ar S4C.
Sun, 9 Jun 13
Hyd:
57 munud
Available:
22 days remaining
Y gantores o Gaerdydd Heather Jones oedd y gwestai penblwydd heddiw. Mair Edwards a Roy Roberts fu'n adolygu'r papurau, a Mike Davies oedd yn cadw golwg ar y tudalennau chwaraeon. Ac fe fu Malan Wilkinson yn gwrando ar dair CD sydd newydd eu rhyddhau.
Mon, 3 Jun 13
Hyd:
83 munud
Available:
16 days remaining
Yr actor Rhys ap William oedd yn dathlu ei benblwydd heddiw oedd gwestai arbennig y bore a bu’n trafod effaith ymosodiad arno yn gynharach eleni. Elin James Jones ac Alun Llwyd fu’n adolygu’r papurau ac Ion Thomas y tudalennau chwaraeon. Fe gafwyd barn Lowri Cooke ar arddangosfa Bedwyr Williams sy’n rhan o’r Biannale yn Fenis, ac Emyr Phillips cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro fu’n crynhoi’r wythnos a fu.
Sun, 26 May 13
Hyd:
56 munud
Available:
8 days remaining
Richard Wyn Jones yr arbenigwr gwleidyddol oedd gwestai Penblwydd y bore. Bethan Jones Parry a Ceri Williams oedd yn adolygu'r papurau Sul a Dylan Ebenezer y tudalennau chwaraeon. Ffilm The Great Gatsby a Gwyl y Gelli gafodd sylw celfyddydol gan Catrin Beard.
Mon, 20 May 13
Hyd:
58 munud
Available:
2 days remaining
Dennis Gethin, Llywydd Undeb Rygbi Cymru oedd gwestai penblwydd y bore. Nia Ceidiog a Guto Bebb oedd yn adolygu'r papurau Sul a Seiriol Hughes y tudalennau chwaraeon. A chafwyd barn Sioned Williams ar restr fer llyfr y flwyddyn.
BBC © 2013 The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.
This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.