Switch language
Local navigation
Cyngherddau Prynhawn: Mahler a Sibelius
gyda'r' Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Mercher 22 Chwefror 2012, 2pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Neuadd Hoddinott y BBC Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 5AL
Rhan o Neuadd Hoddinott y BBC 2011-12 a Gyfres_Sacher_Caerdydd cyfres
R. STRAUSS Metamorphosen
MAHLER Rückert Lieder
SIBELIUS Symffoni Rhif 4
Arweinydd Thomas Dausgaard
Tenor Ben Johnson (Artist y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3)
Gwaedd angerddol o ing dros ddinistrio'r Almaen ym 1945 oedd Metamorphosen a sgrifennodd Strauss pan oedd yn bedwar ugain oed o fewn llai na mis yng ngwynias ysbrydoliaeth. Fe'ch clywch ochr yn ochr â chanu gwerin tyner a pherlesmeiriau darfodedig miniog Rückert Lieder Mahler ac un o'r mwyaf grymus a noethlwm o blith gweithiau
Sibelius: y Bedwaredd Symffoni enfawr.
Darlledir yn fyw gan BBC Radio 3.
Tocynnau £8/£11
Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: 0800 052 1812
Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwn Cymru: 029 2063 6464
Y cyfnod codi tocynnau cyffredinol wedi cychwyn.
Sut i fynd yno
Ar y bys
- Mae yna arhosfan bysus y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru lle mae gwasanaethau rheolaidd i ganol Caerdydd. http://www.cardiffbus.com/routes.shtml http://www.cardiffbus.com/baycar.shtml
Ar y tren
- Mae gwasanaethau rheolaidd yn mynd i Orsaf Bae Caerdydd ac oddi yno o ddydd Llun tan ddydd Sul o Orsaf Heol y Frenhines Caerdydd. Mae yna wasanaeth gwennol am ddim ar Cardiff Baycar i bob teithiwr a chanddo docyn dwyffordd i Orsaf Ganolog Caerdydd neu Orsaf Heol y Frenhines, yn cymryd dim ond 8 munud i gyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r Baycar yn mynd bob deng munud http://www.cardiffbus.com/baycar.shtml
Mewn car
- Pan fyddwch chi’n defnyddio Systemau Llywio Lloeren i fynd i Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bwydwch i mewn y Cod Post: CF10 5AL. Mae yna nifer o feysydd parcio yn y cyffiniau gan gynnwys Meysydd Parcio Cei’r Fôr-forwyn, Canolfan y Ddraig Goch, Stryd Havannah a Glan y Dŵr.
Mynediad i bobol anabl
- Mae Neuadd Hoddinott y BBC yn gwbl hygyrch mewn lifft ac mae mynedfa wastad i’r Neuadd. Mae gan y Neuadd ddolen sain is-goch a mannau eistedd un pwrpas i gadeiriau olwyn. Mae tai bach neillryw cwbl hygyrch ar bob lefel. Mae gan y tai bach neillryw i gadeiriau olwyn gortyn tynnu â larwm at argyfwng. Yn y tai bach cyhoeddus a’r cyfleusterau newid i gyd mae pictogramau gyda Braille (Saesneg a Chymraeg) yn dweud a ydyn nhw i ddynion / i ferched / yn hygyrch. Mae 18 o lefydd cerbydau dan do y gellir eu cadw ymlaen llaw i ymwelwyr anabl, yn hygyrch o Heol Pen y Pier wrth ymyl y Ganolfan. Mae’r llefydd i’w defnyddio am ddim pan nad oes perfformiadau theatr. Fodd bynnag, gan fod galw mawr amdanyn nhw, codir tâl o £5 y lle pan fydd perfformiadau yn Theatr Donald Gordon. Cofiwch fod gofyn cadw llefydd ymlaen llaw o roi caniad i’r Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464 (Minicom 029 2063 4651). Rhannir y llefydd yn ôl y drefn y cyntaf i’r felin gaiff falu ac unwaith y bydd lle wedi’i gadw mae’n ddiogel.
Comments
Sign in or register to comment.