Switch language
Local navigation
Stondin Cyfansoddwyr Cymru
-
19 Rhagfyr 2011
Stondin Cyfansoddwyr Cymru yng nghwmni Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Jac van Steen a Simon Holt
Ar y cyd â Chyfansoddwyr Cymru, Ty Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru
dydd Mercher 1 a dydd Iau 2 Chwefror 2012 -
Dewiswyd chwe sgôr i'w cynnwys yn y digwyddiad deuddydd yma a fydd ar fynd yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd. Bydd y cywaith dan arweiniad Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Jac van Steen a'r Cyfansoddwr Cysylltiedig, Simon Holt sydd hefyd wedi dethol y sgorau a gynhwysir. Bydd y Cyfansoddwr Preswyl Mark Bowden hefyd yn y gweithdai deuddydd yn cynnig cefnogaeth a chyngor i'r cyfansoddwyr sydd ynghlwm.
Bydd y cywaith yn cynnwys y cyfansoddwyr a'r sgorau sy'n dilyn:
- Andrew Lewis: Eclipse for orchestra
- Brian Noyes: Shadows of Memory
- Dai Hao: Brahman
- Gareth Olubunmi Hughes: Visions of Existence #2: "Fractal Civilisations"
- Joseph Davies: Night Resonance Recedes
- Sarah Lianne Lewis: I Can't See the Stars...But I Can Feel Their Spears (3ydd symudiad)Mae'r cywaith yn rhan o weithgaredd Allgyrch Addysg a Chymuned Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yr amcan ydi rhoi stondin i weithiau gan gyfansoddwyr byw sy'n deilwng o gael eu clywed yn ehangach ac fe'i trefnir ar y cyd â Chyfansoddwyr Cymru, Ty Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.
Roedd y cyfansoddwyr cymwys i gynnig sgôr fel sy'n dilyn:
- Cyfansoddwyr a aned yng Nghymru sydd wedi cwblhau addysg drydyddol
- Cyfansoddwyr wedi cwblhau addysg drydyddol sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd
- Cyfansoddwyr sy'n astudio cyfansoddi ar safon Ôl-raddedig yng Nghymru
- Cyfansoddwyr a aned yng Nghymru sy'n astudio cyfansoddi ar lefel Ôl-raddedig y tu allan i Gymru ond yn y Deyrnas UnedigDetholir sgorau o'r rhestr uchod ar gyfer yr ymarfer prynhawn a'r cyngerdd gyda'r hwyr nos Iau 2 Chwefror. Bydd Jac van Steen a Simon Holt yn cyhoeddi'r sgorau a ddewiswyd i fynd ymlaen ar ddiwedd yr ymarfer ddydd Mercher 1 Chwefror.
Gweithdai a'r cyngerdd cloi AM DDIM:
dydd Mercher 1 Chwefror, 2012 - Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd
Gweithdai am ddim ar agor i'r cyhoedd: 1000-1300 a 1400-1700dydd Iau 2 Chwefror 2012 - Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd
Ymarfer am ddim ar agor i'r cyhoedd: 1430-1730
Cyngerdd am ddim yn rhoi llwyfan i uchelfannau'r cywaith: 1900Mae'r tocynnau i'r sesiynau hyn AM DDIM ac maen nhw ar gael gan Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 0800 052 1812.
-
Newyddion