Switch language
Local navigation
Recordiad David Matthews yn ennill gwobr
-
12 Ebrill 2011
Cyhoeddwyd heddiw fod Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi ennill categori'r Recordiad Gorau yng Ngwobrau BBC Music Magazine am ei disg o Ail a Chweched Symffonïau David Matthews, dan arweiniad Prif Arweinydd Gwadd y Gerddorfa, Jac van Steen ac a gynhyrchwyd gan Dutton Epoch.
Mewn seremoni a gynhaliwyd brynhawn heddiw yn King's Place yn Llundain
y cyhoeddwyd enillwyr gwobrau'r cylchgrawn cerddoriaeth glasurol
sy'n gwerthu orau yn y byd ac fe'u cyflwynwyd gan Olygydd BBC Music
Magazine, Oliver Condy, a'r Cyflwynydd ar Radio'r BBC, James Naughtie.
Ar ben y categorïau y mae'r cyhoedd yn bwrw'u pleidlais drostyn nhw ar lein, roedd yna bum Gwobr y Beirniaid a oedd, yn ogystal â'r Recordiad Gorau, yn cynnwys Disg y Flwyddyn, Rhagoriaeth Dechnegol, y Newyddian Gorau a DVD y Flwyddyn. Daeth Andrew McGregor, cyflwynydd CD Review BBC Radio 3, at feirniaid BBC Music Magazine a phanel o gyfranwyr rheolaidd i gylchgronau gan gynnwys George Hall o'r Guardian; y darlledwr sydd wedi ennill gwobr Sony, Stephen Johnson; Christopher Dingle o'r Birmingham Conservatoire a'r Dr Berta Joncus o Goldsmith's College, Prifysgol Llundain i benderfynu ar enillwyr y gwobrau.
Meddai David Murray, Cyfarwyddwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC,
"Rydym wrth ein boddau o gael y newydd am y wobr yma sy'n cydnabod nid yn unig ragoriaeth perfformio ond hefyd ymroddiad y Gerddorfa i gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru ac ymhellach draw ill dau. Rydym yn arbennig o falch bod y wobr hefyd yn tynnu sylw at waith diflino ein Prif Arweinydd Gwadd, Jac van Steen, yn hyrwyddo cerddoriaeth yr oes sydd ohoni."
Meddai Tim Thorne, Uwch-Gynhyrchydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC,
"Mae hi'n orchest wych i ni, rydym ar ben ein digon o ennill y wobr yma. Bu'n hyfrydwch pur i ni weithio gyda Jac van Steen, David Matthews a Dutton. Cawsom yr anrhydedd o weithio gyda David am y tro cyntaf ar première ei chweched symffoni gyda Jac yn y Proms, a gafodd groeso brwd gan y beirniaid i gyd. Yn ail, rydym wrth ein boddau o ddilyn hynny â recordiad mor fywiog a chynnes ar Dutton, label sy'n cael y gair o gyflwyno repertoire diddorol a heriol. A bellach dyma goroni hynny â'r wobr sy'n fawr ei bri. Mae arnom ddyled i David am sgrifennu cerddoriaeth mor wych ac am ei ymdrechion diflino i ymorol ei bod ar gael ar CD."
Rhagor o Wybodaeth
-
Newyddion