Switch language

Local navigation

Cerddorfa a Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae'r gerddorfa'n nodedig nid yn unig am safon ei pherfformiadau ond hefyd am ei phwysigrwydd o fewn ei chymuned.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yw Cerddorfa Breswyl Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac mae hefyd yn cyflwyno cyfres o gyngherddau yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe. Yn ogystal â theithio'n rhyngwladol, mae galw mawr amdani ym mhrif wyliau cerddorol y DU ac mae'n perfformio yng nghyngherddau Proms y BBC a phob dwy flynedd yng nghystadleuaeth bwysig BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Noddir gwaith Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Bywgraffiad llawn yma Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ynghylch Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

"Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn ei throedio hi'n rhwydd trwy gytganau gwefreiddiol, caneuon hyfryd a chytgord yn cydblethu ... Quo Vadis Dyson yw darganfyddiad y flwyddyn ar CD." - The Times

BBC National Chorus of Wales

Ffurfiwyd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC ym 1983. Mae wedi datblygu'n un o brif gorysau cymysg mawr y Deyrnas Unedig. Er ei fod wedi cadw'i statws amatur, mae'r corws yn cyrraedd y safonau proffesiynol uchaf o dan ofal ei gyfarwyddwr cerdd Adrian Partington, gan ennill clod y beirniaid a chydweithrediad clos â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Daw'r cantorion o bob cefndir, ac mae'n cynnwys nifer fawr o bobl ifanc, gyda llawer ohonynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae repertoire y corws yn amrywiol, ac mae'n cynnwys perfformiadau mynych o weithiau mawr Baróc a champweithiau corawl a cherddorfaol o'r 19eg a'r 20fed ganrif. Mae wedi cyflwyno'r perfformiadau cyntaf gweithiau gan Daniel Jones, Syr John Tavener, John Hardy a Michael Berkeley. Yn 2010, bydd y corws yn perfformio gwaith newydd gan Gareth Glyn, cyfansoddwr y mae ei waith yn dod yn fwy a mwy cyfarwydd ymhlith y cyhoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r corws wedi ennill adolygiadau gwych am ei berfformiadau yng nghyngherddau Proms y BBC, yn fwyaf arbennig ei berfformiad o waith enfawr Messiaen, "La Transfiguration" yn 2008, a Symffoni Gorawl Holst, sy'n waith dieithr i lawer o bobl, yn 2009.

Mae'r corws yn perfformio'n gyson ar hyd a lled Cymru, yn y canolfannau mawr, megis Caerdydd ac Abertawe, ac yn Eglwysi Cadeiriol y wlad, yn enwedig Gŵyl Tyddewi, ac yn Eglwysi Cadeiriol Aberhonddu a Llanelwy; ac mae hefyd yn perfformio'n aml mewn eglwysi cadeiriol dros y ffin, fel Caerloyw a Chaerwrangon.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi recordio nifer o gryno ddisgiau ar gyfer label Chandos, gan gynnwys gweithiau gan Franck, Rubbra, Tavener, Mendelssohn a Frank Bridge. Cafodd Song Of The Sea gan Stanford ei phleidleisio'n recordiad Gramophone y mis ac yn gryno ddisg gorawl y flwyddyn yng ngwobrau Gramophone 2005; a daeth y recordiad o Quo Vadis gan Dyson yn ail yn y categori corawl yng Ngwobrau Gramophone 2003.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi ymweld â gwledydd tramor ar sawl achlysur ac mae ei berfformiadau wedi ennill canmoliaeth uchel yn Vienna, Amsterdam, Paris, Ghent, Lens, Tel Aviv ac yng Ngŵyl Opera bwysig Savonlinna yn y Ffindir. Gwahoddwyd y Corws i berfformio ym Mharis mewn cyngerdd arbennig yn y Theatre des Champs-Elysees gyda'r Ensemble Orchestral de Paris ym mis Medi 2008 ac aeth yn ôl yno yng Ngorffennaf 2009 i berfformio Nawfed Symffoni Beethoven yng Ngŵyl St.Denis gyda'r un gerddorfa.

Mae gan y Corws rhaglen allgymorth weithgar. Mae aelodau'r côr yn ymweld yn rheolaidd ag ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru i baratoi plant i berfformio yng nghyngherddau'r BBC yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a chanolfannau eraill.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.