Switch language
Local navigation
Cerddorfa a Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae'r gerddorfa'n nodedig nid yn unig am safon ei pherfformiadau ond hefyd am ei phwysigrwydd o fewn ei chymuned.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yw Cerddorfa Breswyl Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac mae hefyd yn cyflwyno cyfres o gyngherddau yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe. Yn ogystal â theithio'n rhyngwladol, mae galw mawr amdani ym mhrif wyliau cerddorol y DU ac mae'n perfformio yng nghyngherddau Proms y BBC a phob dwy flynedd yng nghystadleuaeth bwysig BBC Canwr y Byd Caerdydd.
Noddir gwaith Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Bywgraffiad llawn Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
-
Mark Bowden - Cyfansoddwr Preswyl (Mehefin 2011 - )
Mae Mark Bowden yn creu cerddoriaeth offerynnol, siambr a cherddorfaol yn ogystal â cherddoriaeth ar gyfer y llais, dawns a ffilm. Mae'n un o aelodau sylfaenu'r Camberwell Composers' Collective mawr ei glod gan y beirniaid ac yn Gymrawd Cerddoriaeth 2011-12 yn Rambert Dance Company.