Mae diffoddwyr tân wedi cael eu hanfon o dân gwair yn Sir Fynwy am resymau diogelwch.
Roedd y diffoddwyr yn taclo'r tân ar fynydd uwchben Y Fenni nos Wener.
Cafodd diffoddwyr o'r Fenni, Blaenafon a Brynmawr eu galw i'r safle ger fferm Pen-y-Garn ger Llanfihangel Crucornau tua 5.30pm.
Fe wnaeth y tân ledu yn gyflym dros gilomedr sgwâr ar y mynydd.
Fe wnaed y penderfyniad i dynnu'r diffoddwyr yn ôl ei wneud wrth iddi nosi a gwynt cryf.
Fe fydd y tir yn cael ei adael i losgi.