Gweilch 24-7 Caeredin
Mae'r Gweilch wedi dychwelyd i'r safle gemau ail gyfle wrth i Gaeredin ostwng wedi colli eu 12fed gêm mewn 16.
Sgoriodd Morgan Allen ddau gais buan wrth i'r Gweilch ddominyddu'r gêm yn Stadiwm Liberty.
Llwyddodd Hamish Watson i gael cais funud cyn yr hanner i roi gobaith i'r ymwelwyr a haneru'r sgôr 14-7 ar yr egwyl.
Ond y tîm cartref oedd gryfa' yn yr ail hanner.
Cafodd Rhys Webb gais arall i'r Gweilch wrth i ganolwr Caeredin Ben Atiga eistedd yn y gell gosb.
Yna cafodd y canolwr Nick de Luca ei anfon oddi ar y cae am dacl beryglus ar Tom Grabham.
Methodd y tîm cartref i gael pedwerydd cais a phwynt bonws.
Gwaharddiad
Llwyddodd Matthew Morgan i drosi'r tair cais a chael cic gosb i'r Gweilch.
Mae'n golygu bod y Gweilch bellach yn y pedwerydd safle, gan godi'n uwch na'r Scarlets fydd yn teithio i wynebu Leinster sy'n drydydd ddydd Sadwrn.
Roedd capten Y Gweilch, Kahn Fotuali'i wedi symud i'r asgell i lenwi'r galw wedi i Ross Jones gael ei wahardd am dair wythnos wedi tacl yn erbyn Connacht.
Roedd hyn yn gyfle wedyn i Webb a Morgan gychwyn y gêm.
Methodd maswr Caeredin, Harry Leonard gic cosb rhwng dau gais Allen.
Methodd Leonard a Morgan i'r Gweilch giciau cosb ar ddechrau'r ail hanner.
Ond o fewn tri munud i gychwyn yr ail hanner roedd y Gweilch wedi mynd ymhellach ar y blaen gyda chic lwyddiannus Morgan cyn cais Webb.
Am weddill yr hanner methu wnaeth yr un tîm i sgorio mwy.