GDP: 'Cymru ar ei hôl hi o hyd'

Arian Tra bod GDP cyfartalog canol Llundain gyfan yn 181% o gyfartaledd Ewrop mae un Cymru yn 74%

Straeon Perthnasol

Pobl Cymru yw'r rhai tlotaf y pen yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ystadegau Ewropeaidd sydd newydd eu cyhoeddi.

Roedd GDP Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 64% cyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac yn yr ardaloedd hyn roedd cyfradd isaf y DU, ar y cyd gydag ardal Cernyw ac Ynysoedd Sili.

Canol Llundain oedd y rhan gyfoethocaf o'r DU - roedd ei GDP cyfartalog yn 321% o gyfartaledd yr UE.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y ffigyrau'n cyfeirio at 2011.

74%

CYMRU'N RHANBARTH

Mae Cymru'n cyfrif fel rhanbarth o'r DU i ddibenion ystadegau Eurostat.

Yn ogystal mae'n cael ei rhannu yn ddwy is-ranbarth, i. Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a ii. Dwyrain Cymru.

Mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn cynnwys Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cymoedd.

O fewn rhanbarth Dwyrain Cymru mae Caerdydd, Casnewydd, Powys, Sir Fynwy, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae GDP Cymru gyfan yn 74% cyfartaledd yr UE, yn ôl y ffigyrau.

Y llynedd roedd yr ystadegau'n dangos bod y wlad yn 81% o'r cyfartaledd ond mae'r ffigwr hwn bellach wedi cael ei adolygu i 75%.

Gogledd Iwerddon a gogledd-ddwyrain Lloegr yw'r ail waethaf, gyda GDP y pen yn 78% o gyfartaledd Ewrop.

70% oedd y ffigwr gwreiddiol gafodd ei roi ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ond cafodd ei adolygu'n 65% cyn gostwng i 64%.

'Perfformio'n well'

Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi derbyn biliynau o bunnoedd o gymorth ariannol dros y blynyddoedd gan yr UE.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ffigyrau yma'n dair blwydd oed a dydyn nhw ddim yn adlewyrchu'r cynnydd sydd wedi bod yn economi Cymru.

"Mae Cymru nawr yn perfformio'n well na chyfartaledd y DU mewn llawer o feysydd economaidd.

"Mae'r ffygyrau cyflogaeth rhanbarthol diweddaraf yn dangos gostyngiad mewn faint sy'n hawlio ymhob rhan o Gymru dros y 12 mis diwethaf ac mae cyflogaeth yng Nghymru yn agos at fod yr uchaf erioed."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.