Meurig Raymond: llywydd newydd undeb yr NFU

Meurig Raymond Meurig Raymond o Sir Benfro yw llywydd newydd yr undeb

Straeon Perthnasol

Ffermwr o Sir Benfro yw llywydd newydd undeb ffermwyr yr NFU.

Cafodd Meurig Raymond, 61 oed, ei ethol yn y gynhadledd flynyddol yn Birmingham.

Mae wedi gwasanaethu'r undeb fel dirprwy lywydd am wyth mlynedd.

Dywedodd: "Mae f'onestrwydd yn golygu bod llunwyr polisi Ewrop a Phrydain yn fy mharchu.

"Gan fy mod yn rhedeg fferm gymysg rwy'n gwybod sut i gynrychioli ffermwyr a thyfwyr ymhob sector."

Ei flaenoriaeth, meddai, fyddai gwella cynhyrchedd a sicrhau y byddai'r Polisi Amaeth Cyffredinol yn cael ei weithredu'n deg.

'Annog pobol ifanc'

"Mae cyfathrebu gyda'n aelodau yn hanfodol, gwrando ar eu pryderon a bydd hyn yn allweddol i'n llwyddiant.

"Gyda'r genhedlaeth nesa' yn rhan o'n busnes ffermio, fe fydda' i'n dadlau yn frwd dros bwysigrwydd amaeth a'r angen i annog pobol ifanc i ffermio."

Mae Mr Raymond a'i frawd Mansel yn ffermio 3,400 o erwau ger Hwlffordd yn Sir Benfro.

Ar y fferm mae cnydau ar 2,200 o erwau a 300 erw o datws. Mae ganddyn nhw 620 o wartheg godro a 600 o wartheg cig eidion.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.