Un bwrdd iechyd: cynllun Plaid Cymru

Ysbyty Un opsiwn yw creu un Bwrdd Iechyd Cenedlaethol a chael gwared â'r saith presennol

Mae Plaid Cymru yn cynnig cael gwared â'r saith bwrdd iechyd presennol a chreu un cenedlaethol.

Mae'n un o ddau awgrym mewn cynllun ailstrwythuro "radical", yn ôl y blaid, ar gyfer y gwasnaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.

Petai'r blaid yn ennill etholiad y Cynulliad, eu bwriad, meddai nhw, yw gwella safon y gofal.

I wneud hynny, mae'r blaid yn amlinellu dau ddewis posib.

Opsiwn 1

Yr opsiwn cyntaf yw ad-drefnu'r byrddau iechyd lleol.

Yn lle'r saith presennol, y bwriad fyddai cael gwared â nhw yn gyfan gwbl a chreu un Bwrdd Iechyd Cenedlaethol, a hynny er mwyn bod yn gyfrifol am ofal mewn ysbytai a'r gwasanaeth ambiwlans.

Byddai hyn, yn ôl Plaid Cymru, yn sicrhau y byddai cynllunio gofal eilaidd a gofal arbenigol (er enghraifft gofal canser) yn cael ei wneud yn genedlaethol, gan ddatrys rhai o'r cymhlethdodau a achosir gan ffiniau gweinyddol pan fo cleifion yn ardal un bwrdd iechyd yn defnyddio gwasanaethau mewn un arall.

Mae nhw hefyd yn cynnwys dewis llai llym o gael tri bwrdd gofal eilaidd, ar sail ardaloedd presennol yr awdurdodau tân ac achub.

Byddai awdurdodau lleol, ar y llaw arall, yn gyfrifol am sawl agwedd arall o'r gwasanaeth iechyd gan gynnwys gofal sylfaenol, ysbytai cymunedol, cludo cleifion a phob triniaeth feddygol gymunedol.

Creu un bwrdd iechyd cenedlaethol yw un o gynigion Plaid Cymru

Opsiwn 2

Yr ail opsiwn sy'n cael ei argymell ydi cyflwyno newidiadau i wella darpariaeth y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion.

Ar hyn o bryd y 22 awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gynnig y gwasanaeth.

Bwriad yr opsiwn yma ydi trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r saith bwrdd iechyd lleol.

Yn yr opsiwn hwn, byddai'r byrddau iechyd lleol yn llwyr gyfrifol am iechyd meddwl.

Codi cwestiynau

Ond mae nifer o fewn y gwasaneth yn codi cwestiynau ynglyn â pha mor effeithiol fyddai cyflwyno newididau fel hyn.

Mae Cyngor Cymreig y BMA yn dweud na fydden nhw yn cefnogi cael gwared â'r Byrddau Iechyd Lleol a chreu un Bwrdd Iechyd Cenedlaethol yn eu lle.

Yn ôl eu cadeirydd, Dr Philip Banfield: "Fe fyddem yn bryderus, yn arbennig, i weld yr awdurdodau lleol yn rhedeg gofal sylfaenol sy'n delio gyda dros 19 miliwn o ymgynghoriadau er gwaethaf buddsoddiad sy'n lleihau, ac fe fyddem â phryderon na fyddai'r awdurdodau lleol gyda'r adnoddau angenrheidiol a'r isadeiledd i ddarparu gofal sylfaenol a chymunedol.

"Ar ben hynny, fe fyddai un bwrdd iechyd ar gyfer Cymru gyfan yn dileu atebolrwydd lleol a chreu'r tebygolrwydd y byddai anghydraddoldeb cynyddol yn y ddarpariaeth ar gyfer yr hen a'r bregus.

"Mae cydweithio agosach rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd wedi gwneud synnwyr erioed... ond, mae'r opsiwn i ddod â gofal cymdeithasol oedolion o dan gyfrifoldeb y saith bwrdd iechyd lleol yn gorfod dod gyda'r adnoddau ariannol i wneud hynny."

Ond dydy Nicola Davies-Job, o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, ddim yn credu bod y syniad mor radical â hynny.

"Fe fyddem ni'n cael yr un sefyllfa ag yr ydym ynddo nawr - mi fyddai biwrocratiaeth o hyd rhwng dwy adran.

"Fe fyddech chi dal yn cael cleifion yn gorfod aros wrth gael eu trosglwyddo o fewn gofal gan y byddai'r cyllid yn dod o ddwy adran wahanol.

"Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn credu mai'r cynllun i drosglwyddo rheolaeth o wasanaethau cymdeithasol oedolion i'r byrddau iechyd lleol yw'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio."

Mae llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi dweud y byddan nhw'n darllen y ddogfen gyda diddordeb:

"Mae llawer o'r hyn rydym wedi'i glywed hyd yma wedi cael ei gyfeirio ato yn ein Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae hwn yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaethau cryf ac integreiddiad gwasanaethau a ffyrdd newydd o ddarparu er mwyn sicrhau gwasanaethau, gofal a chefnogaeth o safon uchel.

"Mae'r mesur yn cynnwys cynlluniau i gryfhau trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a'r GIG. Mae hyn yn cynnwys pwerau i weinidogion wneud rheoliadau i gyfeirio math a ffurf y bartneriaeth a'r trefniadau cefnogol.

"Rydym hefyd wedi sefydlu Cronfa Ofal Ganolraddol gwerth £50m i gefnogi gwaith partneriaeth ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai, a gyda phartneriaid o'r trydydd sector a'r sector annibynnol."

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Maes yr Eisteddfod GenedlaetholBargeinion y brifwyl yn Sir Gâr

    Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig tocynnau am £10 ar gyfer y brifwyl eleni i bobl sydd yn eu prynu mewn da bryd.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.