Elfyn Llwyd am newid cyfraith trais yn y cartref

Elfyn Llwyd AS Man cychwyn trafodaeth yw hyn, meddai Elfyn Llwyd

Straeon Perthnasol

Mae Elfyn Llwyd AS Plaid Cymru Dwyfor-Meirionnydd yn cyflwyno mesur yn Nhŷ'r Cyffredin gyda'r bwriad yn y pen draw o geisio newid cyfraith trais yn y cartre'.

Ym Mawrth y llynedd fe gafodd diffiniad newydd o drais yn y cartre' ei fabwysiadu, oedd yn cynnwys trais seicolegol, corfforol, rhywiol, emosiynol ac ariannol.

Ond ar hyn o bryd dydi'r math yma o ymddygiad ddim yn drosedd.

Start Quote

Hwn ydi'r gwrandawiad cyntaf er mwyn dechrau'r drafodaeth a gweld beth sydd angen ei wneud”

End Quote Elfyn Llwyd AS Dwyfor-Meirionnydd
'Ymyrryd yn gynt'

Meddai Elfyn Llwyd: "Pwrpas y newidiadau fuasai creu fframwaith a ble'n bosib ymyrryd yn gynt yn achosion trais yn y cartre'.

"Pur anaml mae un digwyddiad o drais yn y cartre' - (yr hyn sy'n digwydd yw) catalog o ddigwyddiadau dros amser ac mae'n rhaid i ni nodi'r gwahanol fathau o drais sydd yn digwydd ...

"Ar hyn o bryd dydi'r mesur ddim yn barod i droi'n ddeddf ond hwn ydi'r gwrandawiad cyntaf er mwyn dechrau'r drafodaeth a gweld beth sydd angen ei wneud."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Bryn TerfelCyngerdd i ddathlu pen-blwydd

    Bryn Terfel yn cyhoeddi manylion am gyngerdd i ddathlu ei ben-blwydd yn 50.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.