Cam-drin: Dyn yn pledio'n ddieuog

John Allen arriving in court John Allen yn cyrraedd y llys i wrandawiad blaenorol

Mae cyn bennaeth cartrefi plant yng ngogledd Cymru wedi pledio'n ddieuog i 39 cyhuddiad hanesyddol o gam-drin.

Ymddangosodd John Allen, 72 oed, yn Llys y Goron Caernarfon fore Mercher.

Mewn gwrandawiad a barodd 50 munud, dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC y gallai'r achos yn erbyn Mr Allen ddechrau ym mis Medi gan bara am hyd at 10 wythnos.

Mae'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn ymwneud â honiadau gan 20 o bobl wahanol a wnaeth gwynion yn ei erbyn.

Cafodd Mr Allen ei rhyddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd gwrandawiad arall yn digwydd ar Fawrth 11 yng Nghaernarfon.

Mae'r erlyniad wedi gofyn am gael cynnal yr achos llawn yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ond does dim penderfyniad wedi ei wneud am hynny hyd yn hyn.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.