Canolfan Ymwelwyr 'Byd Mari Jones' yn dod i'r Bala

Cofeb Mary Jones yn y Bala Mae nifer o bobl yn ail-greu taith Mari Jones fel pererindod

Straeon Perthnasol

Bydd hanes merch ifanc gerddodd filltiroedd dros fynyddoedd Cymru i brynu Beibl Cymraeg gan Thomas Charles, i'w gweld mewn canolfan ymwelwyr newydd yn y Bala.

Cerddodd Mari Jones o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala ac yn ôl, taith o dros 40 milltir, i gael ei Beibl yn 1800 - taith y mae nifer yn ei wneud fel pererindod erbyn hyn.

Mae Cymdeithas y Beibl wedi cyhoeddi y bydd Eglwys Beuno Sant, yn Llanycil ger y Bala yn ganolbwynt i'r ganolfan ymwelwyr fydd yn cael ei alw'n 'Byd Mari Jones'.

Mi fydd y ganolfan yn dangos dylanwad y Beibl ar fywyd Cymru ac ar draws y byd.

Prynodd y gymdeithas yr eglwys yn 2007 ac ers hynny maent wedi bod yn gweithio i sefydlu'r ganolfan.

Start Quote

Mae nifer o bobl yn cerdded taith Mari Jones fel pererindod ac fel maent yn cerdded i mewn i'r Bala, mae'n biti nad oes ganddynt le i ddathlu pen eu taith”

End Quote Mary Thomas Ysgrifennydd Cymdeithas y Beibl

Bydd ardal picnic yn cael ei greu, mynediad i lwybrau cerdded cyfagos, a maes parcio.

Mae'r gwaith i atgyweirio tu fewn yr adeilad wedi dechrau yn barod.

'Syfrdanol'
Cofeb Mari Jones Mae'r gofgolofn hon i'w gweld tu allan i'r bwthyn lle roedd Mari Jones yn byw

Dywedodd Maer Bala, Dorothi Evans: "Mae hyn yn newyddion gwych ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ganolfan yn cael ei chwblhau.

"Mae stori Mari Jones a Thomas Charles yn un cyfarwydd i ni, ond mi fydd pawb yn cael y cyfle i'w chlywed, dysgu amdanynt, a hanes y gymdeithas. Bydd pobl wedi eu syfrdanu."

Ar ôl iddi arbed ei harian am chwe blynedd, yn 16 oed, cerddodd Mari Jones o Lanfihangel-y-Pennant dros y mynyddoedd i'r Bala er mwyn prynu Beibl gan y Parchedig Thomas Charles.

Fe wnaeth hynny ysbrydoli Thomas Charles i fynd ati i sefydlu Cymdeithas y Beibl.

Y gobaith yw y bydd yr adeilad yn cael ei agor yn yr Hydref i gofio 200 mlynedd ers ei farwolaeth.

Ychwanegodd Mary Thomas, ysgrifennydd Cymdeithas y Beibl yn y Bala ac awdur llyfr am daith Mari Jones: "Hwn oedd yr eglwys lle bu Thomas Charles briodi a lle cafodd ei gladdu.

"Mae nifer o bobl yn cerdded taith Mari Jones fel pererindod ac fel maent yn cerdded i mewn i'r Bala mae'n biti nad oes ganddynt le i ddathlu pen eu taith.

"Mi fydd y ganolfan yn berffaith i wneud hynny."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.