Rygbi: Dau gyfarfod 'adeiladol'

Rygbi Mae'r ansicrwydd ynglŷn â pha gystadleuau fydd clybiau o Gymru'n cymryd rhan ynddyn nhw flwyddyn nesa' yn parhau

Straeon Perthnasol

Mae dau gyfarfod wedi cael eu cynnal ar ddyfodol rygbi gydag un yn ymwneud â Chymru'n bendol a'r llall a'r gêm Ewropeaidd yn gyffredinol.

Cafodd un ei gynnal rhwng Aelodau Seneddol Cymreig a'r corff sy'n cynrychioli'r rhanbarthau, Rygbi Rhanbarthol Cymru.

Yn ôl cadeirydd y cyfarfod, Huw Irranca-Davies, roedd y cyfarfod yn un "adeiladol iawn".

Dywedodd fod nifer o bynciau wedi cael eu trafod gan gynnwys nawdd, cytundebau a'r ffordd mae'r gêm yn cael ei llywodraethu.

Roedd ASau o bob plaid Gymreig yn bresennol ac maen nhw wedi rhyddhau datganiad ar y cyd.

Mae'r datganiad yn dweud: "Rydym ni'n diolch i Mark [Davies] ac Andrew [Hore] am gynrychioli Rygbi Rhanbarthol Cymru mewn cyfarfod adeiladol oedd yn llawn gwybodaeth, ac am rannu eu syniadau am y ffordd ymlaen.

"Nawr, fe fyddwn ni'n gwahodd Roger Lewis ac Undeb Rygbi Cymru i gyfarfod gyda ni hefyd. Mae Aelodau Seneddol ledled Cymru'n sylwi mor bwysig yw rygbi i Gymru yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Felly, rydym yn annog pob plaid i weithredu ar frys, er lles y gêm ar bob lefel."

Mae Rygbi Rhanbarthol Cymru hefyd wedi rhyddhau datganiad sy'n dweud eu bod nhw'n awyddus i gael "ateb ar frys i'r sefyllfa".

Yn ogystal mae'r datganiad yn dweud eu bod nhw'n cefnogi'r galwadau gan Aelodau Cynulliad dros gynnal ymchwiliad annibynnol i'r ffordd mae rygbi'n cael ei reoli yng Nghymru.

'Ateb chwe gwlad'

Yn y cyfamser mae Cyngor y Chwe Gwlad wedi cynnal cyfarfod er mwyn trafod dyfodol rygbi Ewropeaidd - ac maen nhw hefyd wedi disgrifio'r cyfarfod fel un "adeiladol".

Does dim sicrwydd ar hyn o bryd a fydd cystadleuaeth elitaidd, fydd yn cynnwys timau o'r chwe gwlad, yn digwydd y flwyddyn nesaf ai peidio.

Mae'r rhanbarthau wedi dweud eu bod nhw eisiau bod yn rhan o'r gystadleuaeth mae'r Saeson yn bwriadu ei drefnu, sef Cwpan Rygbi'r Pencampwyr.

Ond mae Undeb Rygbi Cymru'n gwrthwynebu'r cynlluniau hynny, ac mae'n debyg fod Cyngor y Chwe Gwlad yn gwrthwynebu hefyd.

"Mi gafodd Cyngor y Chwe Gwlad gyfarfod adeiladol heddiw ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarganfod ateb chwe gwlad ar gyfer rygbi Ewropeaidd fydd er budd goraf y gêm," meddent mewn datganiad.

"Mae'r cyngor hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad i ddilyn rheolau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB)."

Mae rheolau'r IRB yn dweud fod rhaid i bob cystadleuaeth gael cymeradwyaeth undebau cenedlaethol y gwledydd sy'n cymryd rhan.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.