Cystadleuaeth arloesi newydd yn Eisteddfod Sir Gâr 2014

Y Pafiliwn Pinc yn cael ei godi Bydd y gystadleuaeth arloesedd yn cael ei chynnal yn Eisteddfod Sir Gâr am y tro cynta'

Straeon Perthnasol

Os oes gennych chi syniadau arloesol a chreadigol, mae'r Eisteddfod Genedlaethol eisiau clywed amdanyn nhw fel rhan o gystadleuaeth newydd yn Eisteddfod Sir Gâr eleni.

Bwriad y gystadleuaeth yw annog Cymry o bob oed i arloesi, gan gynnig a chyflwyno syniadau "fydd o fudd i gymdeithas".

Bydd yr enillydd yn derbyn £1,000.

Dywedodd Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod, Robyn Wheldon-Williams:

Start Quote

Yn syml, rydan ni'n chwilio am syniad cyffrous - unrhyw beth sy'n arloesol ac yn torri tir newydd”

End Quote Robyn Wheldon-Williams Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod

"Yn syml, rydan ni'n chwilio am syniad cyffrous - unrhyw beth sy'n arloesol ac yn torri tir newydd.

"Gall fod yn syniad neu ddyfais hollol newydd, neu yn brosiect sydd eisoes wedi'i gwblhau.

"Neu, fe allai'r cais fod yn cynnig ateb i broblem sy'n bodoli mewn unrhyw faes, fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth, meddygaeth, technoleg, peirianneg ac yn y blaen.

"Yn syml, rydym am glywed am unrhyw brosiect, gynllun neu syniad arloesol.

'Sylw i arloesedd'

"Hoffwn dalu teyrnged i un o gefnogwyr mawr gwaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod, Beryl Williams, sef noddwr y gystadleuaeth hon," ychwanegodd.

"Mae Beryl, o ardal Trawsfynydd, wedi bod yn lladmerydd cyson dros ein gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei haelioni a'i chymorth.

"Roedd Beryl yn awyddus i weld rhagor o sylw'n cael ei roi i arloesedd yng Nghymru, a gobeithio'n arw y bydd nifer fawr o geisiadau'n ein cyrraedd fel rhan o'r gystadleuaeth newydd hon."

Gellir cynnig cais fel unigolyn neu mewn grŵp ac mae angen anfon cais o hyd at 1,000 o eiriau sy'n amlinellu'r syniad i Swyddfa'r Eisteddfod erbyn Ebrill 1.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.