Y chwilio gan Heddlu Gwent yn parhau am Nida Ul-Naseer

Nida Ul-Naseer Mae Nida Ul-Naseer wedi diflannu ers pythefnos

Straeon Perthnasol

Mae diflaniad y ferch ddeunaw oed Nida Ul-Naseer yn parhau fel ymchwiliad person ar goll a dyw'r swyddogion ddim yn chwilio am gorff, yn ôl Heddlu Gwent.

Mae ditectifs yn dal i ymchwilio am ardaloedd newydd lle y gallan nhw chwilio am y ferch sydd wedi diflannu ers pythefnos.

Yn ystod y penwythnos mi fydd swyddogion yn chwilio unwaith eto wrth ymyl pont gludo am y ferch o Gasnewydd.

Mae ei theulu yn credu ei bod hi wedi gadael cartref am fod y fyfyrwraig chweched dosbarth yn anhapus nad oedd hi yn medru mynd i'r brifysgol.

Y rheswm am hyn yw bod y teulu yn geiswyr lloches.

"Chwilio am gliwiau"

Mi ddaethon nhw i Brydain o Bacistan bum mlynedd yn ôl ac er iddyn nhw wneud cais i aros yma mi gafodd y cais hwnnw ei wrthod y llynedd.

Maen nhw yng nghanol y broses apelio.

Dywedodd llefarydd Heddlu Gwent: "Mae e'n ymchwiliad i berson ar goll.

"Rydyn ni yn dal i chwilio am gliwiau er mwyn darganfod lle mae hi wedi mynd."

Mae'r heddlu yn gobeithio casglu mwy o wybodaeth ac ehangu'r ardal lle maen nhw'n chwilio.

Maen nhw wedi edrych yn ardal y bont gludo Casnewydd, canolfan mileniwm Pillgwenlli a Sefydliad Lysaght.

Start Quote

...merch hynod grefyddol, yn berson swil, tawel ac yn gariadus”

End Quote Disgrifiad Shamyla Ul-Naseer o'i chwaer

Mi ddiflannodd Ms Ul-Naseer ar Ragfyr 28 ar ôl mynd â biniau allan.

Mae'r teulu'n credu nad oedd hi'n gwisgo ei hesgidiau ar y pryd a doedd ganddi ddim ei ffôn, ei chot nac unrhyw arian pan aeth hi o'r tŷ.

Diflaniad yn "ddirgelwch"

Roedd hi'n gwisgo jins a thop du ac mae'n denau, 5 troedfedd, 3 modfedd o daldra, o dras Asiaidd-Pacistanaidd, a chanddi wallt hir du.

Yn ystod yr wythnos mae ei theulu wedi bod yn apelio arni i ddod adref gyda'i chwaer, Shamyla yn ei disgrifio fel merch "hynod grefyddol, yn berson swil, tawel ac yn gariadus".

Mae Heddlu Gwent yn dweud bod ei diflaniad yn "ddirgelwch" ac yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.