Mandela: Argraffiadau o Dde Affrica

Llun pobl yn disgwyl i weld y corff Mae pobl wedi bod yn disgwyl i gael gweld corff Nelson Mandela yn Pretoria cyn yr angladd ddydd Sul

Straeon Perthnasol

Ar yr awyren y clywodd Heulwen Rees fod Nelson Mandela wedi marw. Roedd y ferch 26 oed newydd gyrraedd Johannesburg fore Gwener pan glywodd hi'r newyddion.

"Mi oedd y peilot wedi dweud dros y tannoy fod e wedi marw. Ymwelwyr oedd y rhan fwyaf ar yr awyren ond mi oedd pobl bach yn shocked i glywed."

Wrth deithio trwy Johannesburg mi oedd yr arwyddion ar y draffordd yn llawn o sloganau fel "We love you Madiba".

Ac ers iddi lanio yn Ne Affrica dyw hi ddim wedi gweld unrhyw ddagrau yn llifo. "Mae pob peth wedi bod yn bositif iawn. Mae 'na lot o bartion wedi bod."

Dod i'r wlad ar gyfer priodas ei chyfnither, Katy, wnaeth Heulwen. Ers pymtheg mlynedd mae tad Katy a'i wraig wedi bod yn byw yn y wlad ac mi benderfynodd Katy briodi yno.

Dim ond gyrru trwy Johannesburg wnaeth Heulwen, sydd yn dod o bentref Creigiau ger Caerdydd. Witbank oedd pen y daith, dinas ddiwydiannol fawr ryw ddwy awr o Johannesburg. Yno mae tad Katy yn byw. Ond mi welon nhw westyau efo canhwyllau a lluniau o Mandela ar hyd y ffordd.

Mor fawr â marwolaeth Diana

Dim ond marwolaeth Nelson Mandela sydd wedi bod ar y cyfryngau ers dyddiau meddai Heulwen. "'Na i gyd sydd ar y teledu, son amdano fe a'i fywyd e."

Tra yn Witbank mi gafon nhw wahoddiad i fynd am bryd o fwyd mewn ardal dlawd sy'n cael ei galw'n "shanty town" gan y bobl leol.

Members of the public arrive for the Nelson Mandela memorial Mae'r awyrgylch wedi bod yn bositif yn Ne Affrica meddai Heulwen Rees

"Mi wnaethon nhw speech am Nelson Mandela. O'dd y rhan fwyaf yn Afrikaans ond wnaethon nhw godi gwydr i'w fywyd e a dweud, 'To Madiba'."

Mae'n dweud bod cariad pobl tuag at Nelson Mandela yn amlwg.

"Ma' nhw yn edrych lan ato fe, yn parchu fe ac mae e wedi gwneud shwt gymaint i'r wlad. Mae e yn ffigwr mawr yma."

"O'n i yna"

"O'dd pobl yn poeni bod political unrest yn mynd i fod ar ôl iddo fe farw ond mae'r awyrgylch yn bositif iawn. Ma' pobl yn talu respect, yn dathlu bywyd fe yn hytrach na unrhyw negativity. A does dim son y bydd pethe yn newid yn y wlad nawr," meddai.

Dyw Heulwen ddim wedi cael cyfle i fynd i weld corff Nelson Mandela ac yn Cape Town fyddan nhw adeg yr angladd ddydd Sul.

Serch hynny: "Mae pob un ohonon ni yn teimlo yn eitha' lwcus i allu bod yma, i gael dathlu efo'r bobl leol. Mae e yn un o'r pethe 'na, pan mae pobl yn gofyn 'Where were you pan wnaeth Mandela farw?'

"Galla i ddweud, o'n i yma. Mae'n beth hanesyddol."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.