Dod o hyd i fachgen tair oed wedi marw mewn pwll

Ysbyty Maelor Bu farw'r bachgen er gwaetha ymdrechion staff Ysbyty Maelor

Mae bachgen tair oed wedi marw ar ôl cael ei ddarganfod mewn pwll mewn gardd ger ei gartref yn Llangollen.

Cafodd yr heddlu wybod bod plentyn ar goll o gyfeiriad yn Froncysyllte am tua phum munud i hanner dydd ac ychydig wedyn mi ddaethon nhw o hyd iddo mewn pwll gardd gerllaw.

Roedd hofrennydd heddlu wedi cael ei galw i'r digwyddiad ond roedd y bachgen wedi cael ei ddarganfod erbyn iddi ddechrau chwilio.

Cafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam mewn ambiwlans lle bu farw er gwaethaf ymdrechion y staff meddygol.

Mae'r teulu nawr yn derbyn cefnogaeth gan swyddog cyswllt.

Mae'r crwner lleol wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae disgwyl iddo ddechrau ymchwiliad ar ôl y post mortem, ac y bydd hynny yn arwain at gwest.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.