'Dim gorsafoedd tân i gau' yn y Canolbarth a'r Gorllewin

Injans tân Mae Gwasanaeth Tân Gorllewin a Chanolbarth Cymru angen arbed dros £5m dros y tair blynedd nesa'

Straeon Perthnasol

Mae aelodau Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi penderfynu gwrthod cynnig i gau rhai gorsafoedd fel ffordd o arbed arian.

Roedd cynlluniau i gau gorsafoedd Trefyclo, Pont-iets, Trefaldwyn a Chymer er mwyn gwneud arbedion.

Ond, mewn cyfarfod ddydd Llun, penderfynodd aelodau geisio gwneud 1.56% o doriadau i'w cyllid yn ystod 2014-15. Bydd hyn yn golygu bod disgwyl i awdurdodau lleol gyfrannu mwy na'r disgwyl i'r gwasanaeth.

Bydd trafodaethau manylach ar sut i wneud yr arbedion hyn yn cael eu cynnal ddydd Llun nesa' am 10:00yb.

Fel rhan o'r cynlluniau, byddai cynghorau'n gorfod cyfrannu'r symiau canlynol:

Ceredigion - £84,000

Powys - £148,000

Sir Gaerfyrddin - £206,000

Sir Benfro - £136,000

Abertawe - £267,000

Castell-nedd Port Talbot - £155,000

Dim ond amcan dros dro yw 1.56% a bydd hyn hefyd yn cael ei drafod ddydd Llun.

Roedd yna ymateb chwyrn gan Undeb y Diffoddwyr Tân fis diwetha' i'r cynlluniau gwreiddiol i wneud dros £5 miliwn o doriadau dros dair blynedd, gyda rhybudd y gallai diogelwch y cyhoedd fod yn y fantol petai'r cynlluniau'n cael eu gweithredu.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.