Anelu at ennill am y tro cynta' ers 2008

George North Mae Northampton wedi caniatáu i George North chwarae dros Gymru

Straeon Perthnasol

Bydd tîm rygbi Cymru'n ceisio curo Awstralia am y tro cyntaf ers 2008 ym mhrawf olaf cyfres yr hydref yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Y tro diwethaf iddyn nhw guro'r Wallabies oedd yn Nhachwedd 2008 ond yn y tair gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad mae Awstralia wedi ennill o ddau bwynt neu lai.

Mae'r gobeithion yn uchel y tro hwn gan fod 11 o garfan Cymru ddydd Sadwrn yn rhan o daith lwyddiannus y Llewod yn erbyn Awstralia yn yr haf.

Er hynny, mae Awstralia wedi ennill tair o'u pedair gêm yn ystod yr hydref.

Un frwydr fawr fydd honno rhwng y ddau gefnwr gorau yn y byd ar y funud, Leigh Halfpenny ac Israel Folau.

Hwb arall yw bod clwb Northampton wedi caniatáu i George North chwarae dros Gymru er nad yw'r gêm yn digwydd ar benwythnos rhyngwladol swyddogol yr IRB.

FFEITHIAU'R ORNEST

  • Mae Cymru wedi ennill 10 gêm o'r 36 yn erbyn Awstralia gan golli 25 ac un yn gyfartal;
  • Mae Cymru wedi colli'r wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Awstralia;
  • Buddugoliaeth fwyaf Awstralia yn erbyn Cymru oedd o 63-6 yn 1991 - buddugoliaeth fwyaf Cymru yn erbyn y Wallabies oedd o 28-3 yn 1975;
  • Dim ond unwaith - yn 2007 - y mae Cymru wedi methu sgorio o gwbl mewn gêm yn erbyn Awstralia.
Ystadegau

Wedi i Gymru ennill un o brofion yr hydref am y tro cyntaf ers pedair blynedd, y fuddugoliaeth yn erbyn Ariannin bythefnos yn ôl, fe gawson nhw un arall yn erbyn Tonga wythnos yn ôl er nad oedd y perfformiad yn un disglair.

Mae angen 26 ar Gymru er mwyn pasio record Lloegr fel y tîm o hemisffer y gogledd sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o bwyntiau yn 2013. Mae tîm Stuart Lancaster wedi sgorio 250 mewn 10 gêm.

Ond wedyn mae Awstralia wedi ennill tair gêm brawf yn olynol am y tro cyntaf eleni drwy guro'r Eidal, Iwerddon a'r Alban. Pe baen nhw'n ennill un arall, dyna fyddai eu rhediad gorau ers 2008.

Nid yw Awstralia wedi ildio cais yn eu dwy gêm ddiwethaf. Y tro diwethaf iddyn nhw fynd tair gêm heb ildio oedd ym Mehefin 2010.

Timau

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi 10 newid i'r tîm enillodd yn erbyn Tonga ac yn cynnwys saith o'r Llewod gurodd Awstralia yn y trydydd prawf tyngedfennol ym mis Gorffennaf.

I Awstralia mae'r hyfforddwr Ewan McKenzie wedi cynnwys pump o'r chwe chwaraewr gafodd eu gwahardd yr wythnos diwethaf am dorri rheolau ymddygiad y garfan ond dim ond dau sydd yn dechrau'r gêm.

Cymru: 15. Halfpenny; 14. Cuthbert, 13. O. Williams, 12. S. Williams, 11. North; 10. Biggar, 9. Phillips; 1. Jenkins, 2. Hibbard, 3. Rhodri Jones, 4. AW. Jones, 5. Evans, 6. Lydiate, 7. Warburton, 8. Faletau.

Eilyddion: Owens, Bevington, Lee, Ryan Jones, Tipuric, R. Williams, Priestland, L. Williams.

Awstralia: 15. Folau; 14. Tomane, 13. Ashley-Cooper, 12. Leali'ifano, 11. Cummins; 10. Cooper, 9. Genia; 1. Slipper, 2. Moore, 3. Kepu, 4. Simmons, 5. Horwill, 6. Fardy, 7. Hooper, 8. Mowen.

Eilyddion: Polota-Nau, Robinson, Alexander, Douglas, Dennis, White, Harris, Foley.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.