Drama'r geni: Ceisio torri record byd

Cast Roedd y cast yn dod o bedwar ban byd

Straeon Perthnasol

Gyda'r Nadolig yn nesau bydd cannoedd o blant yn gwisgo fel angylion, Mair a Joseff neu asyn ar gyfer drama'r geni.

Ond yng Nghaerdydd roedd yna berfformiad ychydig yn wahanol o'r stori yn digwydd.

Roedd y Parchedig Irfan John wedi penderfynu trio torri record y byd trwy gael y nifer mwyaf o genhedloedd erioed i gymryd rhan.

50 o genhedloedd gwahanol ydy'r targed sydd wedi ei osod gan y Guinness World Records.

'Cyfle i gyfarfod'

Mae'r parchedig wedi gwahodd cymunedau lleol i ddod i'r ganolfan mileniwm lle y bydd yr ymgais yn cael ei wneud.

Ei obaidd oedd y byddai gwneud hyn yn gyfle i bobl o ddiwylliannau gwahanol gyfarfod ei gilydd: "Roedd yn ffordd o godi pont o ofal rhwng pobl a lledaenu neges heddwch ledled y byd.

"Os bydd pobl o wahanol wledydd, gwahanol gefndiroedd, gwahanol genhedloedd, gwahanol grefyddau, sy'n siarad ieithoedd gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd yng Nghaerdydd, pam nad ydynt mewn mannau eraill yn y byd?"

Mae Irfan John yn gweithio gyda chynulleidfaoedd o leiafrifoedd ethnig ac mae'n cynnig help i geiswyr lloches a ffoaduriaid.

Roedd o ei hun yn ceisio lloches ychydig flynyddoedd yn ôl. Daeth o i Brydain gyda'i deulu ar ôl ffoi o Bacistan.

Canolfan y Mileniwm Mae'r ddrama yn cael ei chynnal yn Nghanolfan y Mileniwm
"Rhodd i Gaerdydd"

Start Quote

Os byddwn yn torri'r record, hoffwn ei roi yn rhodd i Gaerdydd - fel diolch personol i Gaerdydd a gynigodd loches i mi a'm teulu”

End Quote Irfan John

Mae'n dweud ei fod wedi cael croeso mawr yma a'i fod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned:

"Fi yw'r aelod cyntaf o fy nheulu i fynd o Bacistan i Ewrop felly doedd gen i ddim perthnasau gwaed na ffrindiau yn y DU. Ond cyrhaeddais Margate gyntaf, ac roedd y cyswllt yr oedd gen i â Christnogion yn golygu nad oeddwn i'n teimlo fel dieithryn nac yn unig.

"Os byddwn yn torri'r record, hoffwn ei roi yn rhodd i Gaerdydd - fel diolch personol i Gaerdydd a gynigodd loches i mi a'm teulu."

Roedd Canolfan Mileniwm Cymru yn hapus iawn i fod yn rhan o'r cynhyrchiad yn ôl y Swyddog Cyswllt â'r Gymuned, Hannah Wynn Jones:

"Fel canolfan gelfyddydau cenedlaethol i Gymru mae'n bleser mawr gennym fod yn rhan o'r prosiect hwn sy'n annog pobl o bob cenedl i ymgysylltu â ni, â'r gymuned ac â'i gilydd."

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Irfan John wedi bod yn brysur yn sgriptio'r ddrama a chreu'r set ac er mai 50 o genhedloedd ydy'r her mae'r parchedig yn gobeithio gwneud yn well na hynny.

"Rydyn ni'n gobeithio curo'r targed, gyda 60 o genhedloedd gwahanol, gan gynnwys nifer o ieithoedd gwahanol yn y ddrama i'w clywed ar lafar ac ar gân."

Er mai ddydd Sadwrn ddigwyddodd yr ymgais - gyda theulu a ffrindiau yn dod i wylio'r perfformiad - bydd rhaid iddo aros rhwng 3-6 wythnos i gael gwybod os ydyn nhw wedi llwyddo i dorri'r record.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.