Cymru v Tonga

George North a Justin Tipuric George North a Justin Tipuric yw dau o bedwar sy'n cadw eu lle yn y tîm gurodd yr Ariannin

Straeon Perthnasol

Bydd asgellwr ifanc y Dreigiau, Hallam Amos yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn ddiweddarach pan fydd tîm Warren Gatland yn croesawu Tonga i Stadiwm y Mileniwm nos Wener.

Mae Amos, 19, yn un o 11 o newidiadau i'r tîm gurodd yr Ariannin yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf.

Leigh Halfpenny, George North, Rhodri Jones a Justin Tipuric yw'r unig rai o'r tîm yna sy'n cadw eu llefydd i wynebu'r ynyswyr.

Yr wythwr Ryan Jones fydd yn gapten ar y tîm, a bydd Lloyd Williams a James Hook yn fewnwr a maswr y tu ôl iddo.

Chwaraewyr ifanc

Dyma'r ail dro yn y gyfres i Gatland roi cap cyntaf i chwaraewr ifanc, wedi i 'r canolwr Cory Allen ymddangos yn erbyn y Piwmas.

Mae Allen wedi cael triniaeth i anaf gafodd i'w ysgwydd yn y gêm honno, sy'n golygu ei fod yn un arall ar restr cleifion yr hyfforddwr.

Ymysg y blaenwyr, Andrew Coombs sy'n cyflawni'r rheng ôl, tra bod Ian Evans a Luke Charteris yn dechrau yn yr ail reng.

Bydd y bachwr Ken Owens yn dechrau gem am y tro cyntaf mewn blwyddyn, gyda Paul James a Rhodri Jones wrth ei ochr, ac mae'n dweud bod y gêm yma yn gyfle iddo ddangos ei ddoniau.

Ken Owens Mae Ken Owens yn cael cyfle i ddechrau ei gêm gyntaf ers dros flwyddyn
'Cyfle'

"Dwi'n meddwl bod hyn yn gyfle i fi adael fy marc a cheisio dangos fy mod i'n gallu dechrau o flaen Richard [Hibbard], sydd wedi cael 18 mis gwerth chweil mae'n rhaid dweud.

"Dwi 'di bod yn gweithio'n galed a dechrau lot o gemau i'r Scarlets eleni, sydd wedi bod o fudd.

"Dwi'n datblygu a dod a mwy o reolaeth at fy ffordd o chwarae, ac mae dydd Gwener yn gyfle i fi roi fy achos."

Mae Cymru wedi curo Tonga yn y chwe gêm sydd wedi bod rhwng y ddau dîm, ac mae Tonga wedi colli eu tair gem ddiwethaf, yn cynnwys yn erbyn Ffrainc a Romania yn gynharach yn y mis.

Gwrthwynebwyr cryf

Er hynny, dywedodd Owens bod y tîm yn gwbl ymwybodol o'r bygythiad mae Tonga yn ei beri.

"Maen nhw'n dîm cryf, gyda llawer o chwaraewyr dawnus sy'n chwarae yn y timau gorau yn Ewrop ac mae sawl yn chwarae yn y Super 15 yn Awstralia neu Seland Newydd," meddai.

"Maen nhw'n cynnig her enfawr, un rydym yn edrych ymlaen ato."

Bydd Tonga yn newid pedwar chwaraewr o'r tîm gollodd yn erbyn Ffrainc i wynebu Cymru.

Ni fydd y prop Sona Taumalolo yn chwarae wedi iddo gael gwaharddiad pedair wythnos am daro Yoann Maestri yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.

Prop y Melbourne Rebels Eddie Aholelei fydd yn cymryd ei le, tra bod Sila Puafisi yn dod i mewn i safle'r prop arall.

Viliami Ma'afu fydd yn dechrau fel wythwr tra bod Latiume Fosita yn dechrau yn safle'r maswr.

CYMRU V TONGA Stadiwm y Mileniwm; Nos Wener, Tachwedd 22 :

15. Halfpenny (Gleision);

14. North (Northampton), 13. Owen Williams (Gleision) , 12. Beck (Gweilch) , 11. Amos (Dreigiau);

10. Hook (Perpignan), 9. Lloyd Williams (Gleision);

1. James (Caerfaddon) , 2. Owens (Scarlets), 3. R Jones (Scarlets) ;

4. Charteris (Perpignan) , 5. Ian Evans (Gweilch);

6. Coombs (Gweilch) ; 7. Tipuric (Gweilch), 8. Ryan Jones (Gweilch - capten).

Eilyddion: Emyr Phillips (Scarlets), Ryan Bevington (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Gleision), Rhodri Williams (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Jordan Williams (Scarlets).

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.