Elfyn Llwyd: Angen gweithredu cyfraith stelcian yn well

Elfyn Llwyd AS Elfyn Llwyd AS yn beirniadu cyfraith stelcian.

Straeon Perthnasol

Dywedodd Elfyn Llwyd AS, bod lles rhai sy'n dioddef o stelcian yn cael ei gyfaddawdu oherwydd nad yw'r gyfraith newydd yn cael ei gweithredu digon da.

Mae AS Dwyfor Meirionnydd, fydd yn ymddeol adeg yr etholiad cyffredinol nesaf, wedi codi pryderon nad yw "egwyddorion cryf" y gyfraith yn cael eu "hadlewyrchu yn ymarferol".

Daw'r feirniadaeth blwyddyn ar ôl i'r gyfraith dod i rym.

Megis dechrau mae'r hyfforddiant yn ôl Mr Llwyd, er bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi lansio cwrs ar y we am "Stelcian Seiber" ym mis Medi 2012.

Start Quote

Mae yna rhai gwelliannau wedi digwydd, dydi stelcian ddim yn drosedd sy'n cael ei chuddio.”

End Quote Elfyn Llwyd AS Dwyfor Meirionnydd

Rhybuddiodd Mr Llwyd, nad yw codi cyfradd dedfrydu yn ateb i'r broblem.

Rhaid mynd at wraidd y broblem meddai, yn ogystal â chyflwyno cofrestr i'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd a rhoi triniaeth iddynt.

Rhai gwelliannau

Er y feirniadaeth meddai Mr Llwyd: "Mae yna rhai gwelliannau wedi digwydd, dydi stelcian ddim yn drosedd sy'n cael ei chuddio.

"Ond mae'n rhaid i ni ddilyn y gwaith angenrheidiol sydd wedi ei wneud os ydym am weld unrhyw newid mawr."

Mae Llinell Gymorth Stelcian Genedlaethol wedi gweld cynnydd o 56% mewn galwadau i gymharu â'r un cyfnod llynedd er bod nifer ohonynt ddim yn deall bod y gyfraith wedi newid.

Yn ogystal, yn ôl y Llywodraeth gall dioddefwyr herio'r gwasanaeth erlyn os ydynt yn penderfynu peidio â chyhuddo'r un dan amheuaeth neu ddim yn mynd ymlaen gydag erlyniad.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.