Damwain awyren : enwi'r ddau fu farw

Crash scene Mi ddigwyddodd y ddamwain ym Maes Awyr Penarlâg

Straeon Perthnasol

Mae heddlu'r gogledd wedi cadarnhau mai Gary Vickers 58 oed a Kaye Clarke 42 oed oedd y ddau berson gafodd ei lladd mewn damwain awyren yn Sir y Fflint bnawn Gwener.

Y gred yw bod y ddau, oedd yn dod o ardal Caer, ar ei ffordd adref o Baris pan ddigwyddodd y ddamwain.

Cafodd y gwasanaethau brys ei galw i'r ddamwain ym Maes Awyr Penarlâg toc wedi 1.00pm.

Mi oedd Gary Vickers wedi marw yn syth.

Mi fuodd Kaye Clarke farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae adran ymchwiliadau damweiniau awyr yn trio darganfod beth ddigwyddodd.

Nam mecanyddol?

Mae disgwyl iddyn nhw barhau efo'r gwaith ymchwilio ar y safle cyn y bydd gweddillion yr awyren yn cael ei symud i bencadlys yr adran yn Lloegr.

Yn ôl un ymgynghorydd awyrennau mae'n bosib mai problem fecanyddol wnaeth achosi'r ddamwain.

"Ddyle dim byd fod wedi mynd o'i le pan oedd yr awyren yn paratoi i lanio," meddai Chris Yates.

"Roedd y peilot yn sgilgar efo awyrennau a hofrenyddion.

"Felly mae'n siŵr bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y gwaith cynnal a chadw'r awyren ac os oedd na nam mecanyddol."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.