Clirio i fyny'n parhau yn Aberystwyth wedi'r storm

Fideo Weiqiang Liang, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Straeon Perthnasol

Mae gwaith clirio'n parhau yn Aberystwyth a rhannau eraill wedi i donnau achosi difrod yn ystod y storm dros y penwythnos.

Cafodd graean ei daflu ar y ffordd oherwydd y tonnau ac mae rhannau o'r promenâd wedi cael eu difrodi.

Yn ogystal effeithiodd y llifogydd ar rai busnesau.

Dywedodd ffotograffydd lleol fod yr olygfa fel petai rhyfel wedi bod.

"Dw i heb weld storm mor fawr â hon yn Aberystwyth ers degawdau," meddai Keith Morris.

"Roedd blociau gwenithfaen mawr yn cael eu codi droedfeddi i'r awyr."

Storm Aberystwyth Dywedodd y ffotograffydd Keith Morris ei fod yn lwcus i fod yn fyw wedi i don anferth ei daro i'r llawr yn Aberystwyth
Effaith y storm Taflodd y tonnau dunelli o raean ar y ffordd yn Aberystwyth
Storm at Aberystwyth Bydd gweithwyr yn atgyweirio'r difrod achoswyd gan y storm
Storm Aberystwyth Effeithiodd y storm ar wal y môr
£4,000

Fe gollodd gamera gwerth £4,000 wrth iddo geisio tynnu lluniau.

"Fe ges i fy nharo i lawr gan don anferth," meddai.

"Rwy'n lwcus i fod yn fyw - gallai fod wedi fy nhynnu i mewn i'r môr."

Derbyniodd Cyngor Sir Gâr dros 60 o alwadau yn ystod nos Sadwrn gan bobl oedd yn ffonio i ddweud bod coed wedi syrthio, bod adeiladau wedi cael eu difrodi a bod llefydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd.

Dywedodd Paul Murray sy'n gweithio i'r cyngor fel rheolwr cynnal a chadw: "Rydyn ni wedi delio gyda nifer o ddigwyddiadau dros y penwythnos ac mae ein timau yn mynd ati i glirio coed sydd wedi cwympo ledled y sir.

"Rydyn ni wedi blaenoriaethu'r gwaith ac yn delio'n gynta' â'r problemau allai arwain at y perygl mwyaf.

"Byddwn wedyn yn edrych ar lefydd eraill fel parciau a mannau agored."

Cafodd y gwyntoedd cryfaf eu cofnodi yn Abertawe - 89mya yn ystod prynhawn Sadwrn.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.