Diffoddwyr tân wedi streicio eto dros delerau pensiwn

Diffoddwyr yn cerdd allan o orsaf dân canol Caerdydd ar Fedi Roedd streic nos Wener yn un o gyfres. Cerddodd y diffodwyr yma allan o orsaf dân canol Caerdydd ar Fedi 25, ac mae'r FBU yn bwriadu cynnal streic arall fore Llun

Straeon Perthnasol

Mae diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr wedi streicio eto dros delerau pensiwn.

Dechreuodd y streic gan aelodau undeb diffoddwyr yr FBU nos Wener am 18:30 a daeth i ben am 23:00.

Bwriedir cynnal streic arall ddydd Llun.

Yng Nghymru, dywedodd llefarwyr ar ran gwasanaethau tân y gogledd a'r de na fu modd iddyn nhw ymateb fel arfer i alwadau brys yn ystod y streic a'u bod o'r herwydd wedi blaenoriaethu eu hymatebion.

Derbyniodd Gwasanaeth Tân y De 24 o alwadau yn ystod cyfnod y streic nos Wener, anfonwyd pobl i saith o ddigwyddiadau yn y canolbarth a'r gorllewin ble cafwyd dwy alwad ffug hefyd; a bu'n rhaid anfon injans tân i bedwar digwyddiad yn y gogledd.

Mae'r FBU yn anhapus gyda chynlluniau Llywodraeth y DU i godi'r oed ymddeol o 55 i 60, gan honni bod y math o waith mae diffoddwyr tân yn ei wneud yn golygu bod gweithwyr hŷn yn ei chael hi'n anodd.

Ond mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn dweud bod streicio yn gwbl ddiangen ac yn gwneud niwed i enw da diffoddwyr tân.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.