Protest yn erbyn toriadau addysg feithrin yn Rhondda Cynon Taf

Protest Dywedodd y cyngor nad oedd penderfyniad eto

Straeon Perthnasol

Mae tua 100 o rieni yn protestio tu allan i bencadlys Cyngor Rhondda Cynon Taf yn erbyn cynnig i wneud toriadau i addysg feithrin.

Eisoes mae rhai ymgyrchwyr wedi bygwth peidio â thalu eu treth cyngor am fis.

Dywedodd y cyngor nad oedd penderfyniad terfynol eto.

Mae'r cyngor, sy'n gorfod arbed £46m o fewn pedair blynedd, ar fin cychwyn ymgynghoriad allai olygu bod babanod ddim yn mynd i'r ysgol trwy'r dydd.

Yn lle hynny byddai'r plant yn mynd am ychydig o oriau.

10,000

Erbyn hyn, mae tua 10,000 wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r toriadau.

Mae'r cyngor fel cynghorau eraill Cymru yn gorfod gwneud arbedion ar ôl i'w cyllideb grebachu dros 3% ar gyfer 2014-15.

Ac mae Cyngor Pen-y-bont wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried tynnu arian o'r gyllideb ysgolion fel eu bod nhw yn medru parhau i gynnig llefydd llawn amser i fabanod mewn meithrinfeydd.

Mae'r cyngor yn bwriadu cau hanner eu llyfrgelloedd er mwyn arbed £800,000 y flwyddyn.

Y rhai o dan fygythiad yw llyfrgelloedd Treherbert, Ton Pentre, Penygraig, Ynyshir, Maerdy, Cwmbach, Penrhiwceier, Ynysybwl, Cilfynydd, Tonyrefail, Y Beddau a Phontyclun.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.