Rhybudd y gallai cynghorau fynd i'r wal

Russell Goodway Russell Goodway: Fe allai rhai o gynghorau Cymru fynd yn fethdal

Straeon Perthnasol

Mae un o gynghorwyr Llafur amlycaf Cymru yn rhybuddio y bydd rhai o gynghorau Cymru yn mynd i'r wal yn ystod y ddwy i dair blynedd nesaf oherwydd toriadau i'w cyllid.

Roedd Russell Goodway, aelod o Gabinet Caerdydd sydd â chyfrifoldeb am gyllid, yn siarad yn sgîl cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.

Er bod yna gynnydd yn yr arian sy'n cael ei wario ar iechyd mae awdurdodau lleol yn wynebu toriadau o £182m y flwyddyn nesaf.

Mae nifer o wasanaethau statudol yn cael eu darparu gan gynghorau. Ond wrth siarad ar raglen Good Morning wales ar radio wales, dywedodd Mr Goodway:

"Ond hyd yn oed pe bai ni'n rhoi'r gorau i wario pob un geiniog ry'n ni'n ei wario ar y gwasanaethau dewisol, byddai hynny dal ddim yn ddigon," meddai Mr Goodway.

"Rwy'n meddwl y bydd yna rai cynghorau yng Nghymru yn cwympo drosodd o ganlyniad i'r toriadau hyn."

Diswyddo

Dywedodd ei fod yn credu y byddai'n rhaid i Gaerdydd, cyngor mwyaf poblog Cymru, ddiswyddo tua 5,000 o weithwyr erbyn 2017.

Dywedodd Jane Hutt Gweinidog Cyllid Cymru nad oedd hi'n derbyn sylwadau Mr Goodway.

"Rydym wedi bod yn cefnogi a gwarchod llywodraeth leol yng Nghymru am dair blynedd, yn yr un cyfnod mae awdurdodau yn Lloegr wedi gweld toriadau 9.5%.

"Nid ydym (yng Nghymru) wedi gwneud toriadau o'r fath ac rydym wedi bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i'w paratoi ar gyfer yr amser caled.

"Roedden nhw'n gwybod bod amseroedd caled i ddod."

Roedd y gyllideb yn cynnwys £150 miliwn yn ychwanegol ar iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda £180m ychwanegol yn cael ei wario yn 2014-15 a £240m y flwyddyn wedyn.

Bydd yr arian mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn yn gostwng o'r £4.648 biliwn wnaethon nhw dderbyn eleni i £4.466bn ar gyfer y flwyddyn nesaf - toriad o 3.91%.

Dywedodd Ms Hutt ei bod hi wedi blaenoriaethu iechyd a hynny yn sgil "toriadau digynsail i gyllideb Cymru" gan Lywodraeth San Steffan.

Cyhoeddi ar-lein?

Wrth ymateb i sylwadau Mr Goodway, dywedodd llefarydd llywodraeth leol yr wrthblaid yn y Cynulliad, Janet Finch-Saunders:

"Byddai cynghorau Cymru'n gwneud yn dda i ddilyn esiampl Cyngor Mynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr a chyhoeddi pob punt o'u gwariant ar-lein, gan y gall helpu sicrhau gwerth am arian trwy gael hyd i wastraff.

"Byddai gan gynghorau yng Nghymru fwy o hyblygrwydd pe bai llywodraeth Lafur Carwyn Jones wedi cytuno i rewi treth gyngor ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio'n galed, fel yr oedd Llywodraeth y DU, a arweinir gan y Ceidwadwyr, wedi ei gyllido yn ystod pob un o'r tair blynedd ddiwethaf.

"Tra bod rhybudd Russell Goodway am fethdaliad efallai'n atseinio o gwmpas neuaddau sir, mae'n hanfodol fod cynghorau'n agor eu llyfrau ac yn ystyried sut y gallan nhw ddarparu mwy am lai heb syrthio nôl ar y datrysiad hawdd o gosbi pobl sy'n gweithio'n galed."

Gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd

Dywedodd Steve Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y byddai'r toriadau yn effeithio ar wasanaethau.

Dywedodd: "Fedrwn ni ddim parhau i ddarparu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd, felly fe fydd yn cael effaith ar bethau fel gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, casglu sbwriel a chyflwr ein ffyrdd.

"Rydym yn gyfrifol am rywbeth tebyg i 735 o wasanaethau, felly fe fydd effaith anferthol i'r cyhoedd yng Nghymru."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.