'Rhowch un cyfle arall i'r wasg'

Guto Harri Dyw Guto Harri ddim yn credu bod angen sefydlu corff annibynnol i oruchwylio’r wasg

Straeon Perthnasol

Mae Guto Harri wedi dweud y dylai'r wasg gael un cyfle arall i reoleiddio'i hun.

Yn siarad ar raglen Sunday Politics y BBC, dywedodd cyfarwyddwr cyfathrebu News UK bod cynlluniau San Steffan yn bygwth rhyddid y wasg.

Dywedodd bod y diwydiant eisiau sefydlu rheoleiddiwr pwerus ei hun.

Ond dyw Llefarydd Llafur ar Gymru Owen Smith ddim yn cytuno gan gyfeirio at ymosodiadau diweddar y Daily Mail ar dad Ed Miliband fel prawf bod angen rheoli'r papurau o'r tu allan.

Leveson

Ym mis Tachwedd 2012 fe gyhoeddwyd Adroddiad Leveson ar safonau'r wasg - cafodd Y ei sefydlu yn dilyn honiadau bod aelodau o'r wasg wedi cael gafael ar wybodaeth breifat drwy ddulliau anghyfreithlon, yn bennaf drwy hacio ffonau symudol.

Roedd yr adroddiad yn galw am sefydlu corff annibynnol i oruchwylio papurau newydd.

Wythnos yma bydd gwleidyddion yn penderfynu be i wneud efo rheoleiddio'r wasg wrth i'r Cyfrin Gyngor gyfarfod i ystyried y ddau gynnig gwahanol - cynnig trawsbleidiol sy'n seiliedig ar awgrymiadau Leveson a chynnig arall gan y wasg, sydd eisiau goruchwylio ei hun.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd y Daily Mail erthygl ddadleuol am dad Ed Miliband, wnaeth farw yn 1994, yn honni ei fod yn "casáu Prydain".

Rhy bell?

Fe achosodd hyn lawer o ddadlau a drwgdeimlad gyda llawer yn dweud fod y papur wedi mynd rhy bell, ond eraill yn amddiffyn hawl y Daily Mail i fynegi eu hunain.

Mae hyn wedi arwain at nifer o reolwyr o fewn y wasg yn damcaniaethu y gallai'r digwyddiad effeithio y penderfyniad ynglŷn â pa gynnig fydd yn cael ei dderbyn, gan iddo droi gwleidyddion yn erbyn y syniad y gallai'r wasg reoleiddio'i hun.

Fe wnaeth Andy Williams o Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd esbonio'r gwahaniaeth rhwng y ddau gynnig ar Sunday Supplement ar Radio Wales fore Sul: "Bydd cyfarfod [y Cyfrin Gyngor] yn ystyried y ddau Siartr Brenhinol gwahanol - un y diwydiant sydd fwy neu lai yn golygu 'busnes fel arfer' a'r un arall.

"Mae'r llall yn un trawsbleidiol gafodd ei gyuno gan ASau fisoedd yn ôl a hwn yw'r un sy'n debygol o gael ei weithredu - mae hwn lawer fwy llym.

'Annibynnol'

"Mewn cymharaeth dyw e ddim yn disgyn yn fyr o beth roedd Leveson yn fynnu - mae'n rhoi hawl i ddioddefwyr sy'n cael eu cam-drin gan y wasg i dderbyn cywiriadau ac ymddiheuriadau, byddai eu preifatrwydd nhw'n cael ei amddiffyn a byddai sancsyniau'n cael eu defnyddio felly fyddai o ddim yn ddiddanedd.

"Yn bwysicach fe fyddai o'n annibynnol o'r diwydiant yn wahanol iawn i'r siarter mae'r wasg wedi ei gynnig."

Dywedodd Owen Smith wrth Sunday Politics mai dim ond y cynnig trawsbleidiol allai arwain at reoli'r wasg mewn ffordd gyfrifol ac annibynnol.

Ond mae Guto Harri yn dadlau y byddai hyn yn fygythiad i ryddid y wasg.

"Mae archwaeth anferth i sefydlu rheoleiddiwr pwerus allai osod dirwyon a gorfodi ymddiheuriadau, ond dydyn ni ddim angen gwleidyddion i ddweud hynny wrthon ni," meddai.

Mae Sunday Politics yn cael ei ddarlledu am 11yb ddydd Sul ar BBC 1.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.